Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Coffadwriaeth, neu Hanes Byr o fywyd a Marwolaeth y Parchedig John Williams.djvu/64

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

au i ddyfod. Heb amcanu sylwi ar bob peth cynnwysedig yn y gân anghydmarol hon, ni a allwn weled yn eglur mae prophwydoliaeth yw geiriau'r testun, o'r ofn a'r arswyd fuasai yn syrthio ar y Canaaneaid, fel na buasai ynddynt galon er cynyg atal mynediad Israel trwy yr Iorddonen i dir yr addewid "Ofn ac arswyd a syrth arnynt gan fawredd dy fraich y tawant fel carreg;" ac felly y bu, Jos. 3. 15, 16, 17. a 5. 1. "A phan ddaeth y rhai oedd yn dwyn yr arch hyd yr Iorddonen, a gwlychu o draed yr offeiriad, oedd yn dwyn yr arch, yn ngwr y dyfroedd, a'r Iorddonen a lanwai dros ei glanau oll, holl ddyddiau y cynhauaf.-Yna y dyfroedd, y rhai oedd yn disgyn oddi uchod, a safasant; cyfodasant yn bentwr yn mhell iawn oddwrth y ddinas Adam, yr hon sydd o ystlys Saretan; a'r dyfroedd y rhai oedd yn disgyn i for y rhos, sef i'r mor heli, a ddarfuant, ac a dorwyd ymaith. Felly y bobl a aethant drosodd ar gyfer Jericho.—A'r offeiriaid, y rhai oedd yn dwyn arch cyfamod yr Arglwydd, a safasant ar dir sych, yn nghanol yr Iorddonen, yn daclus; a holl Israel oedd yn myned drosodd ar dir sych, nes darfod i'r holl genedl fyned trwy yr Iorddonen.—Pan glybu holl frenhinoedd yr Amoriaid, y rhai oedd o'r tu hwnt i'r Iorddonen tu a'r gorllewin, a holl frenhinoedd y Canaaneaid,