Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Coffadwriaeth, neu Hanes Byr o fywyd a Marwolaeth y Parchedig John Williams.djvu/65

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

y rhai oedd wrth y mor, sychu o'r Arglwydd ddyfroedd yr Iorddonen o flaen meibion Israel, nes eu myned hwy trwodd; yna y digalonwyd hwynt, fel nad oedd yspryd mwyach ynddynt, rhag ofn meibion Israel. Ac yr oedd eu mynediad tawel hwynt trwy afon yr Iorddonen yn gysgod o dawel fynediad pobl yr Arglwydd trwy afon angeu i'r Ganaan ' ysbrydol, o dragywyddol orphwysfa a dedwyddwch ̧ A chymeryd y geiriau yn y golygiad yma, ni gawn ymdrechu cadarnhau ac egluro y tri sylw can lynol, sef,

I. Bod gan Dduw ei bobl yn y byd, a'r rhai hyny yn bobl trwy enilliad 'nes myned trwodd o'th bobl di, Arglwydd, nes myned o'r bobl a ennillaist ti trwodd.

II. Bod yn rhaid symud y bobl yma o'r byd i ogoniant trwy afon angeu, ac y cânt fyned trwyddi yn ddiogel, 'Ofn ac arswyd a syrth arnynt,—tawant fel carreg.

III. Bod diogelwch eu mynediad i'w briodoli i fawredd braich Duw, neu ei holl-alluawgrwydd, "Gan fawredd dy fraich y tawant fel carreg, nes myned trwodd o'th bobl di Arglwydd."

I. Bod gan Dduw ei bobl yn y byd, a'r rhai hyny yn eiddo iddo trwy ennilliad geruwch natur-