Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Coffadwriaeth, neu Hanes Byr o fywyd a Marwolaeth y Parchedig John Williams.djvu/66

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

iol.—1. Y maent oll wedi eu hethol yn Nghrist gan yr un cariad tragywyddol Eph. 1. 4, 5. Megis yr etholodd efe ni ynddo ef cyn seiliad y byd, fel y byddem yn sanctaidd ac yn ddifeius ger ei fron ef mewn cariad. Wedi iddo ein rhag-luniaethu ni i fabwysiad trwy Iesu Grist iddo ei hun, yn ol boddlonrwydd ei ewyllys ef. Er cymaint o 'wahaniaeth a ddichon fod rhwng y naill gredadyn a'r llall yn eu gwybodaeth, eu doniau, a'u hamgylchiadau, &c., eto y maent oll yn gydradd yma, y mae yr oll o ddedwyddwch yr oll o honynt yn tarddu o'r un ffynon, ac y mae ganddynt oll yr un achos diolch i Dduw, o blegid iddo o'r dechreuad eu hethol hwynt i iachawdwriaeth.—2. Y maent wedi eu prynu a'r un gwerthfawr waed, 1 Pedr 1. 18, 19. Gan wybod nad a phethau llygredig, megis arian neu aur, y'ch prynwyd oddi wrth eich ofer ymarweddiad, yr hon a gawsoch trwy draddodiad y tadau. Eithr a gwerthfawr waed Crist, megis oen difeius a difrycheulyd. Dat. 5.9. A hwy a ganasant ganiad newydd, gan ddywedyd, Teilwng wyt ti i gymmeryd y llyfr, ac i agoryd ei seliau ef:o blegid ti a laddwyd, ac a'n prynaist nii Dduw trwy dy waed, allan o bob llwyth, ac iaith, a phobl, a chenedl. Eph. 5. 25, 26. Y gwyr, cerwch eich gwragedd, megis ag y carodd Crist yr eglwys, ac a'i rhoddes ei hun drosti. Fel y sancteiddiai efe hi, a'i glanhau â'r olchfa ddwfr.