Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Coffadwriaeth, neu Hanes Byr o fywyd a Marwolaeth y Parchedig John Williams.djvu/67

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

trwy y gair. Nis gwnai neb brynu unrhyw beth er mawr gwerth, heb ei fod yn golygu cael ei feddianu, yn yr un modd ni ellir meddwl i Grist roddi ei hun yn bridwerth dros bechaduriaid, heb ei fod yn penderfynu eu gwared o'r sefyllfa bechadurus a thruenus yr oeddynt wedi myned iddo trwy bechod:'O lafur ei enaid y gwel ac y diwellir.—3. Y maent wedi eu hail—eni o'r un hâd anllygredig, 1 Pedr 1. 23. Wedi eich ail eni, nid o had llygredig, eithr anllygredig, trwy air Duw, yr hwn sydd yn byw ac yn parhau yn dragywydd. Iago 1. 18. O'i wir ewyllys yr enillodd efe nyni trwy air y gwirionedd, fel y byddem ryw flaenffrwyth o'i greaduriaid ef. Dyma'r cyfnewidiad mwyaf a gymer le ar y pechadur byth, a phwy bynag a'i profodd yn wirioneddol nis gall byth ei angofio. Y mae symud pechadur o gyflwr pechod i gyflwr sanctaidd o ras, yn llawer mwy na'i symud o ras i ogoniant. Yn y naill y mae yn cael cyfnewidiad cyflwr, eithr yn y llall cynnydd mewn cyflwr yn yr hon y mae eisioes. Yn yr adenedigaeth y y mae yn cael ei symud o dywyllwch i oleuni, eithr yn y llall nid ydyw ond myned o oleuni llai, i oleuni mwy, o ogoniant i ogoniant. —4. Y mae yr un ysbryd yn preswylio ynddynt, Ioan 14. 16. A mi a weddiaf ar y Tad, ac efe a rydd i chwi Ddiddanydd arall, fel yr arhoso gydâ chwi yn