Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Coffadwriaeth, neu Hanes Byr o fywyd a Marwolaeth y Parchedig John Williams.djvu/68

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

dragywyddol. Y mae'r Ysbryd Glân yn ymweled â llawer, eithr yn trigo yn unig yn y saint, 1 Ioan 3. 24. A'r hwn sydd yn cadw ei orchymynion ef, sydd yn trigo ynddo ef, ac yntau ynddo yntau. Ac wrth hyn y gwyddom ei fod yn aros ynom, sef o'r Ysbryd a roddes efe ini. Yn y saint y mae yn cartrefu yn barhaus; i'r saint y mae yn ernes werthfawr o etifeddiaeth dragywyddol, ac arnynt hwy y mae yn sel a adwaenir ac a arddelir yn nydd y farn.-5. Y maent oll yn mwynhau cymdeithas felus a Duw yn Nghrist, I Ioan 1. 3. Yr hyn a welsom ac a glywsom, yr ydym yn ei fynegi i chwi, fel y caffoch chwithau hefyd gymdeithas gyda ni:a'n cymdeithas ni yn wir sydd gyd â'r Tad, a chyd â'i Fab ef Iesu Grist. Yn y gymdeithas gyfeillachol hon y mae Duw a hwythau yn cyd ymddiddan, y naill yn mynegi ei gyfrinach i'r llall, a thrwy rinwedd y gymdeithas agos hon y mae'r saint yn cael ei newid yn raddol i ddelw eu Tad, 2 Cor. 3. 18. Eithr nyni oll ag wyneb agored, yn edrych ar ogoniant yr Arglwydd megis mewn drych, a newidir i'r unrhyw ddelw o ogoniant i ogoniant, megis gan Ysbryd yr Arglwydd.

II. Y mae yn rhaid i'r bobl yma gael eu symud o'r byd hwn trwy afon angeu i ogoniant; o'r hyn yr oedd mynediad yr Israeliaid trwy'r Iorddonen i wlad Canaan yn gysgod priodol; yma y mae yn