Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Coffadwriaeth, neu Hanes Byr o fywyd a Marwolaeth y Parchedig John Williams.djvu/69

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

addas i ni sylwi ar y pethau canlynol:—1. Mae mynediad trwodd yw marw, o fyd o amser i fyd o dragywyddoldeb; felly y mae yr Arglwydd Iesu yn desgrifio ei farwolaeth ei hun, Luc 22. 22. Ac yn wir y mae Mab y dyn yn myned, megis y mae wedi ei luniaethu:eithr gwae y dyn hwnw trwy yr hwn y bradychir ef. Ac felly y mae y gydmariaeth yma, "nes myned trwodd o'th bobl di, Arglwydd, nes myned o'r bobl a ennillaist ti trwodd." trwy afon yr Iorddonen i dir Canaan yn llythyrenol, trwy angeu i wlad o orphwysfa dragywyddol yn ysbrydd. 2. Y mae y mynediad yma yn anhepgorol angenrheidiol i bawb, Heb. 9. 27. Ac megis y gosodwyd i ddynion farw unwaith ac wedi hynny bod barn. Gen. 47. 29. A dyddiau Israel a nesasant i farw. Y gwr disyml hwnw Jacob:y gwr nerthol a llwyddianus hwnw mewn gweddi Israel, y mae yn rhaid iddo farw fel eraill, "Eich tadau pa le y maent hwy, a'r prophwydi a ydynt hwy yn fyw byth? nag ydynt, nid ydynt, yn byw ond ychydig o amser yn y byd hwn:pan orphenont y gwaith a roddwyd, iddynt i'w wneuthur, y maent yn cael eu galw i dŷ eu Tad, i etifeddu sylwedd yr addewidion. Yr enwog William Williams o Bant-y-celyn, ni fu byw ond 74 o flynyddoedd, a'i fab haelionus John Williams a gafodd yn gymwys yr un nifer; buant meirw ill dau mewn oedran têg ac yn gyflawn o ddydd-