Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Coffadwriaeth, neu Hanes Byr o fywyd a Marwolaeth y Parchedig John Williams.djvu/70

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

iau.—3. Y mae mynediad y duwiol trwy afon angeu bob amser yn ddiogel, ac yn fwyaf cyffredin yn dawel trwy sicrwydd tufewnol o'u buddugoliaeth, gwel y testun a Jos. 3. 17. A'r offeiriaid, y rhai oedd yn dwyn arch cyfammod yr Arglwydd, a safasant ar dir sych, yn nghanol yr Iorddonen, yn daclus: a holl Israel oedd yn myned drosodd ar dir sych, nes darfod i'r holl genedl fyned trwy yr Iorddonen, Ni chollwyd yr un o'r Israeliaid yn yr Iorddonen, felly holl brynedigion Iesu a ant yn ddiogel trwy angeu i ogoniant; ni chollir yr un o honynt, ond byddant oll ar ddeheulaw y gwaredwr y dydd y gwnel briodoledd. Ac megis y mae eu mynediad bob amser yn ddiberygl, felly y mae yn gyffredin yn dawel ac yn dangnefeddus, Salm 37.37. Ystyr y perffaith, ac edrych ar yr uniawn, canys diwedd y gwr hwnw fydd tangnefedd. Pan aeth Israel o'r Aipht ni oddefwyd i un ei i symud ei dafod yn ei herbyn, a phan aethant trwy'r Jorddonen, ni ddaeth un o'r Canaaneaid i gynnyg eu rhwystro, ond "tawasant fel carreg." "A phan glywsant sychu o'r Arglwydd ddyfroedd yr Iorddonen, digalonwyd hwynt fel nad oedd ysbryd mwyach ynddynt." Ac felly yn gyffredin pan y bo teulu Duw yn afon angeu, ni chaniatteir idd eu gelynion ysbrydol, (sef, byd cnawd a diafol, y rhai a barodd gymaint o aflonyddwch iddynt yn y byd,) eu blino yn eu mynydau diweddaf, a llawer enaid