ofnus yn ei fywyd, a glywyd yn awr angeu yn canu, 1 Cor. 15. 55. O angeu pa le mae dy golyn? O uffern pa le mae dy fuddugoliaeth.
III. Y mae hyn i'w briodoli i fawredd braich Duw, neu ei holl-alluawgrwydd. Diamau ei fod yn gysur mawr i feibion Israel i weled yr offeiriaid rhai oedd yn dwyn arch cyfammod yr Arglwydd yn sefyll ar dir sych, yn nghanol yr Iorddonen, yn daclus a diysgog:ac felly yr un modd, y mae yn gysur cryf i gredinwyr gweiniaid, i weled gweinidogion yr efengyl yn marw yn llawn hyder y ffydd y buont yn ei phregethu i eraill, Heb. 13.7. Meddyliwch am eich blaenoriaid, y rhai a draethasant i chwi air Duw ffydd y rhai dilynwch, gan ystyried diwedd eu hymarweddiad hwynt. Ond eu.cysur mwyaf oedd gwybod bod y Duw byw ei hunan yn eu plith, yr hyn oedd yn amlwg wrth weled y dyfroedd, oedd yn disgyn oddi uchod, yn sefyll ac yn cyfodi yn bentwr, a'r dyfroedd y rhai oedd yn disgyn i'r môr heli a ddarfuant, ac a dorwyd ymaith, ac yr oedd yn amlwg fod eu Duw gydâ hwynt, gan nad oedd neb o'i gelynion yn cynnyg attal eu mynediad: "gan fawredd dy fraich y tawant fel carreg." Job 40. 9. A oes i ti fraich fel i Dduw; neu a wnei di daranau a'th lais fel yntau? Sal. 89. 13. Y mae i ti fraich a chadernid: cadarn yw dy law, ac uchel yw dy ddeheulaw. Crediniaeth o