Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Coffadwriaeth, neu Hanes Byr o fywyd a Marwolaeth y Parchedig John Williams.djvu/72

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

bresenoldeb Duw gyda ni wrth farw, yw y moddion mwyaf effeithiol i dynu ymaith ofn marw, Sal 23.4. Te, pe rhodiwn ar hyd glyn cysgod angeu, nid ofnaf niwed:canys yr wyt ti gyda mi:dy wialen a'th ffon a'm cysurant. Ond cael Duw gyda ni, nis rhaid ofni niwed, efe a ostega'r gelyn a'r ymddialydd. 2 Pedr 1. 11. Canys felly yn helaeth y trefnir i chwi fynediad i mewn i deyrnas ein Harglwydd a'n Hachubwr Iesu Grist. Nid hwyrach na bydd i ryw gristion gwan, ddarllen y sylwadau byrion hyn, yr hwn trwy ofn marwolaeth, sydd dros ei holl fywyd dan gaethiwed, yn ymresymu yn aml ag ef ei hun, Jer. 12. 5. O rhedaist ti gyda'r gwyr traed, a hwy yn dy flino, pa fodd yr ymdarewi a'r meirch? ac os blinasant di mewn tir heddychlawn, yn yr hwn yr ymddiriedaist, yna pa fodd y gwnai yn ymchwydd yr Iorddonen. Ymddiried yn yn y Duw a barthodd y môr, ac a wnaeth i ddyfroedd yr Iorddonen sefyll yn bentwr, gan obeithio yn berffaith am y gras a ddygir i ti yn natguddiad Iesu Grist Esa. 35. 10. Yna yr agorir llygaid y deillion, a chlustiau y byddarion a agorir.




W. ROWLANDS, ARGRAFFYDD, PONTYPOOL.