Tudalen:Cofiant Cadwaladr Jones, Dolgellau.djvu/100

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn dangos hyn i raddau helaeth. Sonia Paul am dano ei hun yn adn. 12, ac am Timotheus adn. 5, ac am danynt eu dau adn. 7, fel rhai wedi eu hachub, a'u galw yn wir ufuddion i'r efengyl, "nid yn ol eu gweithredoedd, ond yn ol ei arfaeth ei hun a'i ras."

'Bellach, deuwn at destyn pregeth R. J. yn ein Rhifyn am Ragfyr 1846. "Megys yr etholodd efe ni ynddo ef cyn seiliad y byd, fel y byddem santaidd a difeius ger ei fron ef mewn cariad." Yma sylwa mai "etholedigaeth y cenhedloedd i freintiau yr oruchwyliaeth efengylaidd" a olygir, yr hyn a ymddengys i ni yn hollol annghywir—1. O herwydd fod Paul yn rhoddi ei hun yn un o honynt, megys yn y geiriau ni a byddem: nis gallasai roddi ei hun yn un o'r cenhedloedd, oblegid mai Iuddew ydoedd mewn gwirionedd. 2. O herwydd mai at y saint ar ffyddloniaid yn Nghrist Iesu yr oedd yn ysgrifenu ei epistol, y rhai oeddynt gynnwysedig nid o genhedloedd yn unig, ond hefyd o Iuddewon dychweledig; am hyny, yr oedd yn gallu ystyried ei hun yn un o honynt, ac o ganlyniad wedi ei ethol i fywyd tragwyddol, ac i santeiddrwydd fel y llwybr i fywyd, a hyny cyn seiliad y byd—nid am eu bod yn santaidd, ond "fel y byddent santaidd a difeius ger ei fron ef mewn cariad." Ond dichon yr haerir nad yw debygol fod yr holl eglwys yn wir dduwiol, ac o ganlyniad nas gallasai ddweyd eu bod wedi eu hethol cyn seiliad y byd heb un eithriad. Yma sylwn fod yr apostol yn eu hanerch yn ol y broffes of dduwioldeb oeddynt wedi ac yn ei wneyd; ac o herwydd mai hwn oedd y cymmeriad cryfaf perthynol iddynt, ystyriai yn briodol eu hanerch dan yr enwau saint a ffyddloniaid yn Nghrist Iesu, ac wedi eu hethol cyn seiliad y byd. Fel hyn y llefarai am eglwysi cyfain eraill yr un modd, gan eu cynghori hwynt yn deilwng yn ol yr enw oedd arnynt; gwel ei epistolau at y Corinthiaid, Philippiaid, Colosiaid, Thessaloniaid, &c., &e. Gan hyny, pell iawn, i'n tyb ni, ydyw esboniad R. J. o fod yn gywir.

Oddiwrth y sylwadau blaenorol dysgwn—1. Na wnaeth ac na wna yr Etholedigaeth y dadleuwn drosti ddim drwg i neb.