Tudalen:Cofiant Cadwaladr Jones, Dolgellau.djvu/99

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

olygiad hwn â'r adnodau uchod. Ond dywed yn ei bregeth, tudal. 363, bl. 1846, mai "etholiad y cenhedloedd i fwynhau breintiau crefyddol yn sefydliad yr oruchwyliaeth efengylaidd a feddylir yn holl epistolau Paul." Beth, ai nid epistol Paul yw yr epistol at y Rhufeiniaid? Y mae R. J. wedi anghofio ei hun. Camddarlunia olygiadau E. H. yn tudal. 49, pan y dywed fod E. H. yn golygu wrth etholedigaeth, "Penderfyniad tragwyddol Duw o rai personau i gredu, ac o bersonau eraill i beidio credu." Nis gallwn ni gredu fod E. H. yn dweyd na meddwl fod Duw wedi penderfynu i neb beidio credu. Ond rhag gwneyd un annhegwch ag R. J. yn ei esboniad ar yr adnodau dan sylw, boddlonwn iddo gymeryd yr un a fyno -ei etholedigaeth amserol, neu ei "benderfyniad tragwyddol i faddeu pechodau yr edifeiriol," &c. y mae yn golygu y ddwy "yn dal perthynas â gweithredoedd,' gwel tudal. 49, bl. 1846, "y weithred o garu Duw yn rhesymiad yr apostol;" ac of ganlyniad nid yw ei etholedigaeth o un gwerth i neb, ond yn syrthio i hollol ddiddymdra, yn gymaint a'i bod yn ymddibynu ar weithredoedd da dyn o hono ei hun. Neu ynte iddo gymeryd yr adnod dan sylw yn golygu ei drydedd etholedigaeth, sef etholiad y cenhedloedd i freintiau, yr hon a olyga yn holl epistolau Paul pan y sonia am etholedigaeth, medd ef. Ond sylwed ein darllenwyr fod y geiriau yn cynnwys pob Cristionogion pa un bynag ai Iuddewon ai Cenhedloedd fyddont. O herwydd y mae y breintiau y sonir yn y geiriau yn perthyn nid i gyfundebau fel y cyfryw, ond i bersonau neillduol; a'r holl freintiau yn effaith rhagwybodaeth, a rhagluniad y nef.

Sylwa hefyd ar 2 Tim. i. 9, "Yr hwn a'n hachubodd, ac a'n galwodd ni à galwedigaeth santaidd, nid yn ol ein gweithredoedd ni, ond yn ol ei arfaeth ei hun a'i ras." Dywed fod yr adnod hon yn golygu "trefn achub, trefnu ffordd iechydwriaeth, agor ffordd y bywyd o flaen y byd," &c. Ymddengys i ni fod y geiriau yn golygu y pethau y maent yn ddweyd, sef gweithredol achubiaeth; o herwydd-1. Mai eu troi o'u priodol ystyr ydyw eu cymhwyso at "drefn achub, agor ffordd bywyd o flaen y byd," &c. 2. Am fod cysylltiad y geiriau