Tudalen:Cofiant Cadwaladr Jones, Dolgellau.djvu/98

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

gyrhaedd at hyn, sylwa ar y fantais a gaent wrth hyny—na lithrent hwy ddim byth. Cyfarwydda ni yn gyntaf at ein galwedigaeth, gwaith Duw ar ein heneidiau; ac oddiyno yn ol at y ffynnon fawr o ba un y tarddodd ein galwedigaeth, sef etholedigaeth—ei ddilyn yn ol oddiwrth ei waith at y cynllun. Ac os hyn, fel y credwn, yw meddwl yr adnod, rhaid nas gall yr alwedigaeth hon ychwaith olygu galwad yr efengyl, na'r etholedigaeth olygu etholedigaeth i fwynhau breintiau yr efengyl, oblegid nis gallasent fod yn ansicr o hyn. —nid oedd raid iddynt arfer un diwydrwydd i'w wneyd yn sicr—yr oedd yn berffaith wybodus iddynt eisoes.

Sylwa hefyd ar 2 Thes. ii. 13, "Oblegid i Dduw o'r dechreuad eich ethol chwi i iachawdwriaeth," &c. a dywed mai etholiad y cenhedloedd i freintiau, megys, Eph. iii. 1—6, a olygir. Ond y mae hyn yn hollol gamsyniad. Y mae y geiriau o'r dechreuad yn cyfeirio yn aml at dragwyddoldeb cyn bod amser, Ioan i. 1, a 1 Ioan i. 1. Wrth gymharu yr adnodau hyn, ymddengys fod y geiriau yn y dechreuad," "ac o'r dechreuad," a'r un meddwl iddynt, sef "er tragwyddoldeb." Gwel hefyd Michah v. 2. Nid yw y geiriau "o'r dechreuad" yma yn golygu dechreuad pregethiad yr efengyl, am nad ydynt yn cael eu harferyd am hyn yn neillduol yn un man arall; ac nid yw yn cydfyned à hanesiaeth yr ysgrythyr fod y Thessaloniaid yn flaenffrwyth y cenhedloedd, fel yr ymddengys yn Act. xv. 3. Yr un etholedigaeth a olygir yn y geiriau dan sylw ag yn 1 Thes. i. 4, 5. At yr un bobl y mae yr apostol yn ysgrifenu, ac y mae yn dangos yn eglur nad etholedigaeth i freintiau a olyga yno; oblegid y rheswm a ddefnyddia i brofi eu hetholedigaeth, fod yr efengyl tuag atynt, nid mewn gair yn unig, ond mewn nerth, ac yn yr Ysbryd Glân, ac mewn sicrwydd mawr, &c. Sylwa, yn mhellach, ar Rhuf. viii. 28, 29, "Y rhai a ragwybu, a ragluniodd efe hefyd," &c. Mae R. J. yn golygu mai "penderfyniad tragwyddol Duw i faddeu pechodau yr edifeiriol, a rhoi bywyd tragwyddol i bwy bynag a gredo yn Nghrist yw etholedigaeth," tudal. 49, bl. 1846. Yna ceisia gysoni ei