Tudalen:Cofiant Cadwaladr Jones, Dolgellau.djvu/97

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

yn credu yn unig y bwriadodd Duw iddi ateb ei dyben; yna gwelir yn eglur fod yn rhaid ar yr un pryd addef yr etholedigaeth y dadleuwn drosti. Ond lled debygol y bydd R. J. am gael ei draed yn rhydd o'r maglau hyn etto, ac y dywed mai bwriadu ymddibynol ar ymddygiad dyn yn credu y mae yn ei feddwl. Os felly rhyw fwriadu rhyfedd iawn yw hwn-bwriadu "cael dynion i gredu," a gadael i grediniaeth dyn o hono ei hun sicrhau neu ddiddymu bwriad Duw!! Nid yw hyn amgen na bwriadu a pheidio bwriadu, arfaethu a pheidio arfaethu, ethol a pheidio ethol, ar yr un pryd. Bwriadu, os credant; ac oni chredant, y bwriadu yn syrthio i ddiddymdra! Dyma fwriadu na wna un daioni i neb: bwriadu sicr o droi i ddiddymdra yn ei berthynas â phawb, oblegid na chreda neb o honynt eu hunain, fel y sylwyd eisoes. Ymddengys fod R. J. yn dal dwy etholedigaeth; un er tragwyddoldeb, gwel tudal. 211, bl. 1845; ac un arall mewn amser ar grediniaeth dyn, yn ol ei sylw ar yr adnod dan ein hystyriaeth. Ond pe byddai deng mil o etholedigaethau fel hyn yn ymddibynu ar edifeirwch a chrediniaeth dyn o hono ei hun, ni byddai neb yn well erddynt; ond arhosai pawb am amser a thragwyddoldeb dan farn condemniad heb gredu. Ni chred dyn o hono ei hun heb ddylanwad neillduol Ysbryd Duw ar ei enaid, ae ni rydd yr etholedigaethau uchod un math o gymhorth iddo i hyny. Os dywedir mai am fod dyn yn dduwiol y mae Duw yn ei ethol, pa le yr ymddengys yr angenrheidrwydd iddo gael ei ethol i santeiddrwydd, a'i greu yn Nghrist i weithredoedd da, ac yntau yn flaenorol yn santaidd, ac yn gwneyd gweithredoedd da?

Ond beth, meddwch, yw meddwl y geiriau, "Byddwch ddiwyd i wneuthur eich galwedigaeth a'ch etholedigaeth yn sier?" Mewn atebiad i hyn sylwn fod yr apostol yn ysgrifenu atynt fel duwiolion, ond etto yn y tywyllwch am eu galwedigaeth effeithiol, a'u hetholedigaeth i fywyd tragwyddol gan Dduw; ao y byddai yn angenrheidiol iddynt arfer diwydrwydd mewn bywyd duwiol a hunanymholiad er gwneyd hyn yn sicr wybodus iddynt ou hunain: ac yn annogaeth i ym-