Tudalen:Cofiant Cadwaladr Jones, Dolgellau.djvu/96

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hwynt, sef iachawdwriaeth dynion." Dywed hefyd mai "dyben galwad yr efengyl ydyw cael dynion i gredu yn Nghrist, a dyben Etholedigaeth yw bywyd tragwyddol i bwy bynag a gredo." Gwelir yma yn eglur mai wrth yr alwedigaeth y meddylia, galwad yr efengyl; ac wrth yr etholedigaeth y meddylia, etholedigaeth i fywyd tragwyddol pan gredir; ac wrth eu gwneyd yn sicr, eu gwneyd yn sicr o ateb y dyben eu bwriadwyd! Meddyliem fod yr esboniad yn un gwreiddiol, ac na ddaeth erioed i feddwl neb arall. Ond gwreiddiol neu beidio, ymddengys i ni yn hollol annghytuno â'r meddwl dwyfol; ac er dangos hyny, sylwn yn-1. Mai at rai yn profesu duwioldeb yr ysgrifenai yr apostol, a'i fod yn siarad â hwy fel rhai yn ateb i'w proffes-yn wir dduwiolion. Fel y cyfryw, yr oedd galwad yr efengyl wedi ateb ei dyben (eu dwyn i gredu) tuag atynt eisoes, ac o ganlyniad eu hetholedigaeth wedi cymeryd lle (yn ol barn ein cyfaill), a bywyd tragwyddol wedi ei roddi iddynt mewn addewid sicr a didwyll, ac o ran mewn mwynhad. 2. Mai amcan yr apostol oedd eu hannog i ymestyn yn mlaen at yr hyn nad oeddynt wedi ei gyrhaedd, gan eu hannog i ddiwydrwydd i hyny; a chan eu bod wedi credu, yr oeddynt wedi eu hethol, yn ol ei farn ef, a bywyd tragwyddol yn eu gafael yn barod, ac o ganlyniad, dyben eu galwedigaeth a'u hetholedigaeth wedi ei ateb. Pa synwyr, gan hyny, a allasai fod yn y gwaith o'u hannog i arfer diwydrwydd i ymestyn at yr hyn oeddynt wedi ei gyrhaeddyd? 3. Sylwn ar y geiriau rhyfedd hyn o eiddo ein cyfaill; "Eu gwneyd yn sicr o ateb y dyben y bwriadwyd hwynt." Pwy ydyw yr hwynt yma? Galwedigaeth ac etholedigaeth yn ddiau. Gan bwy y mae ein cyfaill yn meddwl i'r alwad gael ei bwriadu i ateb y dyben a sonia, sef credu yn Nghrist? Gan Dduw yn ddiammau, ac nid gan neb arall. Wel, ynte, gellir gofyn, A fwriadodd Duw i alwad yr efengyl ateb y dyben y bwriadwyd hi tuag at bawb sydd yn ei chlywed? Os dywedwn, Do; yna fe greda pawb o honynt, a byddant oll yn gadwedig! neu ynte, y bydd bwriad Duw heb ei gyflawni. Os dywedwn, Na ddo; mai i'r rhai sydd