efe yn berffaith na fyddant gadwedig? Nid eu bod yn anetholedig yw yr achos na fyddant gadwedig, ond eu camddefnydd o drefn Duw; ac yn gymaint a bod Etholedigaeth neillduol a galwad yr efengyl yn gyson â'u gilydd, credwn y bydd llawer mwy o Dduw, mwy o ddyn, a mwy o drefn achub dyn yn dyfod i'r amlwg yn nhrefn Etholedigaeth ddiammodol, a galwad cyffredinol, nag a welsid byth pe buasai Duw yn gosod cadwedigaeth dyn i ymddibynu ar ei waith yn defnyddio moddion achub o hono ei hun. Dymunem sylwi hefyd fod y gofyniad uchod mor anhawdd ei ateb i'r Armin ag ydyw i'r Calvin; oblegid y mae y naill a'r llall fel eu gilydd yn credu galwad cyffredinol yr efengyl, a holl wybodaeth Iehofah. Gellid gofyn lluaws o ofynion cyffelyb i'r un uchod; megys "Paham y mae wedi rhoddi bodolaeth, ac yn rhoddi cynnaliaeth i'r rhai y gwyddai ef mai annghredu a wnaent, ac mai colledig fyddent?
Ond wedi y cyfan a ellir ddweyd ar y mater, y mae goruchwyliaethau y nef yn anfeidrol bell uwchlaw amgyffred holl greaduriaid rhesymol y nef a'r ddaear; a rhaid i ni ddweyd y rheswm paham y mae yn gwneyd fel hyn neu fel arall, fel y dywedodd ein Harglwydd—"Felly y rhyngodd. bodd yn dy olwg."
7. Y mae'r Etholedigaeth hon yn ysgrythyrol. Ni sylwn. yma ond yn unig ar y prif adnodau a gamesboniodd R. J., gan amcanu unioni yr hyn a gamodd efe. Nis gallwn lai na synu iddo ddychymygu fod y geiriau, "Diystyrasoch fy holl gynghor i," &c., yn golygu arfaeth Jehofah, pan y mae y cysylltiad yn dangos yn eglur i'r gwrthwyneb.
Sylwa R. J. hefyd ar 2 Pedr i. 10.—"Byddwch ddiwyd i wneuthur eich galwedigaeth a'ch etholedigaeth yn sicr." Dywed fod yr ymadrodd yn rhoddi ar ddeall fod ein Hetholedigaeth yn ansicr, a bod ar ein llaw ni ei gwneyd yn sicr," tudalen 211, bl. 1845. Nid yw yn meddwl eu gwneyd yn sicr adnabyddus i feddwl y saint; ond, yn ol ei eiriau ef ei hun mewn llythyr eglurhaol atom, "Gwneyd ein galwedigaeth a'n Hetholedigaeth yn sicr o ateb y dyben y bwriadwyd