Tudalen:Cofiant Cadwaladr Jones, Dolgellau.djvu/94

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

am nad ydynt yn ateb eu dyben "heb Etholedigaeth yn extra." Gwel tudal. 49, bl. 1846. Y mae yn wir fod Etholedigaeth yn achosi iddynt ateb eu dyben; ond nid yn achosi iddynt fod yn foddion addas a digonol. Y mae geiriad E. H. wedi rhoddi lle i amheuaeth am addasrwydd a digonolrwydd y moddion heb eu defnyddio, pan y dywed, tudal. 277, "Mae yr Iawn, yr efengyl, &c., yn drefn a moddion addas i gadw dyn ond eu defnyddio." Y mae hyn yn wir, ond nid yr holl wir yn y mater. Buasai yn well pe dywedasai eu bod yn foddion perffaith addas a digonol, pa un bynag a gaffont eu defnyddio ai peidio; a chofied R. J. nad yw eu haddasrwydd a'u digonolrwydd yn ymddibynu ar ymddygiad dyn yn eu defnyddio. Nid rhoddi gwisg am danom sydd yn ei gwneuthur yn addas a digonol, ond rhaid parhau i'w gwisgo er ateb ei dyben. Nid oes yr un annghysondeb rhwng yr Etholedigaeth hon â galwad cyffredinol, mwy nac sydd rhwng Penarglwyddiaeth a chyfiawnder yn yr hanfod ddwyfol. "Y mae Etholedigaeth," fel y dywed J. R. yn y Galwad Difrifol, "yn perthyn i Dduw fel Penarglwydd grasol; ond ei waith yn galw yn perthyn iddo fel Llywodraethwr cyfiawn; yn ganlynol, tra na fyddo annghysondeb rhwng Penarglwyddiaeth. a chyfiawnder yn yr hanfod ddwyfol, nis gall fod anghysondeb rhwng gweithrediad Penarglwyddiaeth yn ethol, a gweithrediad cyfiawnder yn galw. Yr oedd Etholedigaeth yn golygu dyn yn dderbyniwr goddefol; ond y mae galwedigaeth gyffredinol yn golygu dyn yn weithredydd rhydd, a deiliad llywodraeth foesol; a thra na byddo annghysondeb rhwng bod dyn yn dderbyniwr goddefol, ac yn weithredydd rhydd, nis gall fod annghysondeb yn ymddygiadau Duw tuag ato fel y cyfryw. Ac heblaw hyny, dyben Etholedigaeth bersonol oedd dwyn dynion i ufudd-dod i alwad yr efengyl."

Os dywedir fod gras yn yr alwad yn gystal a chyfiawnder, ni wna hyny ond cadarnhau yr hyn a amcenir ei brofi, sef nas gall fod un annghysondeb rhwng gras yn y ffynnon, a gras yn y ffrydiau sydd yn dylifo o honi. Dichon y gofynir i ni, Paham y mae Duw yn galw ar yr anetholedig, y rhai y gŵyr