Tudalen:Cofiant Cadwaladr Jones, Dolgellau.djvu/103

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

â neb wrth gyfranu mwy i eraill. Paham, gan hyny, y beïr ar Etholedigaeth gras?

7. Fod yr Etholedigaeth y dadleuwn drosti yn gadael yr un faint o obaith a mantais i fod yn gadwedig i'r gweddill gadawedig ag a adewir gan Arminiaid i bawb. Nid yw yn eu hyspeilio o'u galluoedd naturiol i iawn ddefnyddio moddion achub-nid yw yn rhoddi un tuedd drygionus ynddynt-ac nid oes a fyno hi a gwneyd un anfantais i neb mwy nag hebddi. Pa fanteision bynag y mae Arminiaid yn ei roddi i bawb i fod yn gadwedig, y mae Etholedigaeth, yn yr ystyr Galfinaidd'o feddwl, yn gwneyd yr un peth i'r gweddill gadawedig, ac yn sicrhau cadwedigaeth y dyrfa fawr a achubir, pan nad yw Etholedigaeth ammodol yn sicrhau cadwedigaeth neb.

Yn awr, gadawn y Sylwadau blaenorol at ystyriaeth ein darllenwyr, heb gymeryd arnom draethu ar lawer o bethau y gallesid gwneyd ar y pwngc, gan gyfyngu ein hunain yn unig at y pethau a gymerai i fewn y prif faterion a ymddengys i ni yn gamsyniol yn y ddadl.

Cyfeiriwn ein darllenwyr, er gweled ychwaneg ar y pwngc, at y ddadl rhwng y Parchn. J. R., D. S. Davies, a Sion y Wesley, bl. 1824, tudal. 47, 76, a 106; a bl. 1825, tudal. 48, 75, 106, 114, 117, a 145; yn nghyd â Sylwadau y Golygydd, 148.

Gwyddai Mr. Jones, yn llawn cystal a neb yn Nghymru, fod y golygiadau a gofleidia dyn ar Arfaeth Duw, ac Etholedigaeth Gras, yn sicr o effeithio yn ddirfawr ar ei syniadau ar byngciau Duwinyddol eraill; megys, ymddibyniaeth dyn ar Dduw am bob daioni; cyflwr dyn fel creadur syrthiedig, a gwrthryfelwr penderfynol yn erbyn yr Arglwydd; natur moddion moesol, a'u gweinyddiad tuag at ddynion, fel deiliaid cyfrifol yn llywodraeth Duw; natur gwaith yr Ysbryd Glân, yn nychweliad a santeiddiad pechaduriaid; fod ysgogiad dyn at ddaioni, yn nhro-bwynt dechreuol ei iachawdwriaeth, yn hollol o Dduw, yn gystal a pharhad y saint mewn santeiddrwydd; cyflwyniad yr holl ogoniant i'r Arglwydd, dros byth, gan y gwaredigion; ac amryw bethau pwysig eraill. Gwelai