Tudalen:Cofiant Cadwaladr Jones, Dolgellau.djvu/106

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

marwolaeth trwy un; mwy o lawer y caiff y rhai sydd yn derbyn lluosogrwydd o ras, ac o ddawn cyfiawnder, deyrnasu mewn bywyd trwy un, Iesu Grist. Felly gan hyny, megys trwy gamwedd un y daeth barn ar bob dyn i gondemniad; felly hefyd trwy gyfiawnder un y daeth y dawn ar bob dyn i gyfiawnhad bywyd." Gwel hefyd 1 Cor. xv. 21, 22, 49. "Canys gan fod marwolaeth trwy ddyn, trwy ddyn hefyd y mae adgyfodiad y meirw. Oblegid megys yn Adda y mae pawb yn meirw, felly hefyd yn Nghrist y bywheir pawb. Ac megys y dygasom ddelw y daearol, ni a ddygwn hefyd ddelw y nefol." Nid ydym i ddeall wrth yr ysgrythyrau uchod, ein bod ni, blant Adda, yn cael ein hystyried gan Dduw wedi bwyta o'r ffrwyth gwaharddedig yn bersonol; ond ei fod yn ein cyfrif yn ddarostyngedig i'r un canlyniadau â phe buasem wedi gweithredu yn bersonol, a hyny oblegid tegwch ac uniondeb y drefn o osod Adda yn ben i sefyll ei brawf drosom. Gan hyny, yn gymaint a bod ein tad Adda wedi ei osod i sefyll, nid yn unig drosto ei hun, ond hefyd dros ei holl hiliogaeth, yr oedd y bygythiad, a'r addewid gynnwysedig yn y cyfammod a wnaed âg ef, yn perthyn i'w hiliogaeth yn gystal ag yntau. "Yn y dydd y bwytei o hono, gan farw ti a fyddi farw," Gen. ii. 17. Dichon y dywed rhyw un, er fod yn eglur y lleferir y geiriau hyn with Adda, nad oes air o son ynddynt am ei hiliogaeth ef. Mewn atebiad i'r cyfryw, gellir dywedyd, nad oes ychwaith un gair o son am ei hâd yn y geiriau yn Gen. iii. 19, "Canys pridd wyt ti, ac i'r pridd y dychweli." Er hyny, y mae yn eglur fod y geiriau yn perthyn i'w hiliogaeth yn gystal ag yntau, fel mai trwy rym y ddedfryd sydd ynddynt y maent oll yn ddarostynedig i farwolaeth." Yn Adda y mae pawb yn meirw."

Dichon etto fod ambell un yn methu canfod uniondeb, tegwch, a daioni y fath drefn, a gosod un dyn i sefyll drosom ni oll, ac yn tybied y buasai yn llawer tecach, a mwy manteisiol i'w hiliogaeth, gael eu gosod i sefyll eu prawf drostynt eu hunain, na bod un dyn [Adda] yn sefyll dros ei holl hâd. I hyn gellir ateb, na chafodd Adda, na neb o'i hiliogaeth, un