Tudalen:Cofiant Cadwaladr Jones, Dolgellau.djvu/105

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

amheuol ei fod yn ystyriol o'i gyfrifoldeb i'w Greawdwr, a'i rwymau i'w garu â'i holl galon, ac ufuddhau iddo yn mhob peth a ddywedai efe wrtho. Gwyddai mai Duw yn unig ydoedd Meddiannydd yr holl fyd, ac nad ydoedd ganddo ef hawl i ddim oedd ynddo ond a ganiateid iddo gan ei Greawdwr a'i Lywodraethwr.

2. Gwelodd Duw yn dḍa, yn gymaint a'i fod yn greadur cyfrifol iddo, ei osod ar brawf. Yn y sefydliad, neu y drefn hon, rhoddwyd cyfraith i Adda. "A'r Arglwydd Dduw a orchymynodd i'r dyn, gan ddywedyd, O bob pren o'r ardd gan fwyta y gelli fwyta: ond o bren gwybodaeth da a drwg, na fwyta a hono; oblegid yn y dydd y bwytei di o hono, gan farw y byddi farw." Gofynai y gyfraith hon berffaith ufudddod dros holl dymor ei brawf. Nid ydym yn gwybod hŷd amser ei brawf; ond gellid meddwl nad ydoedd ond byr. Pa fodd bynag am hyn, methodd Adda ddal ei ffordd; a chyn diwedd yr amser hwnw, efe a fwytaodd o'r ffrwyth gwaharddedig, a chollodd ei hawl yn ol y drefn hon i fywyd o ddedwyddwch, yr hwn yn ddiau a gawsai drwy gydffurfio â'r gyfraith a roddwyd iddo. Daeth dan fygythiad y cyfammod neu y drefn hon, "yn y dydd y bwytei di o hono, gan farw y byddi farw." Ymadawodd â Duw,-daeth yn agored i farwolaeth naturiol a thragwyddol. Gen. ii. 17.

3. Gosodwyd ein tad Adda i sefyll, nid yn unig drosto ei hun, ond hefyd dros ei holl hiliogaeth. Oni buasai y gosodiad hwn, ni fuasai trosedd cyntaf Adda ddim i ni mwy na'i droseddau eraill ar ol hyny, neu droseddau ein rhieni, neu ryw rai eraill a gaffai y cyffelyb fanteision i osod esiampl ddrwg ger ein bron. Ond y mae yn dra eglur yn yr ysgrythyrau, fod ei drosedd cyntaf ef wedi dwyn ei holl hiliogaeth i'r un cyflwr ag yntau-sef cyflwr o ysgariaeth oddiwrth Dduw, ac yn agored i farwolaeth naturiol a thragwyddol. Rhuf. v. 12, 14, 15, 17, 18, 19, 21. "Am hyny, megys trwy un dyn y daeth pechod i'r byd, a marwolaeth trwy bechod; ac felly yr aeth marwolaeth ar bob dyn, yn gymaint a phechu o bawb. Canys os trwy gamwedd un (neu un camwedd) y teyrnasodd