o ddyled gyfiawn ar Dduw i'w thalu, ac nid yn weithred o ras yn Nuw, mewn cysondeb â chyfiawnder, yn ol Eph. ii. 5, 7, &c.
2. Fod Duw wedi cael Iawn ar ei draul ei hun yn unig, ac nid ar draul neb o'r rhai a droseddodd yn erbyn ei lywodraeth, "Yr Arglwydd a edrych iddo ei hun am Oen y poethoffrwm." A chan fod Duw wedi codi i fyny anrhydedd ei lywodraeth ar ei draul ei hun yn mherson ei Fab, ni raid iddo ddiolch i neb o'r drwgweithredwyr; fe fuasai enw da Duw, ac anrhydedd ei lywodraeth, tan gwmwl byth o'u rhan hwy; yn ganlynol nid oedd arno rwymau i achub neb o honynt mwy na'i gilydd. Etto, pan y mae Duw wedi cael anrhydedd boddhaol i'w lywodraeth (er ar ei draul ei hun) efe a all achub heb wneuthur un cam â hwynt; a chan ei fod yn Benarglwydd llawn o ras, penderfynodd i achub y rhai a achubir, ac efe a wna.
Nid oedd yn bossibl i un person dwyfol wneuthur y llall yn ddyledwr iddo, ond trwy rasol gyfammod rhyngddynt, am fod yr un mawrhydi yn perthyn i'r naill fel y llall; a phan mae y Tad yn gwneuthur addewidion i'r Mab y gwel ei had, o lafur ei enaid, ac y caiff ei ddiwallu, &c., mae hyny yn ol cyfammod neu gyngor grasol rhwng y personau dwyfol.
3. Gorchymynir pregethu yr efengyl i bob dyn, ac yn yr efengyl y mae Duw yn gwneuthur cynygiad diragrith o gadwedigaeth i bob dyn fel eu gilydd; yr hyn na allai fod, oni bai fod yr Iawn yn cael ei ystyried gan Duw ei hun (pa fodd bynag y mae dynion yn ei ystyried) yn ddigon yn wyneb ei ddwyfol lywodraeth dros holl ddynolryw.
4. Pe byddai pob dyn sydd yn clywed yr efengyl (ac nid ar Dduw y mae'r bai nad yw pob dyn sydd yn y byd wedi clywed yr efengyl) yn gwneuthur eu dyledswydd, byddai pob dyn sydd yn clywed yr efengyl yn gadwedig. Dyledswydd ddi-ymwad pob dyn sydd yn clywed yr efengyl yw ei chredu, a bydd pob dyn a gredo yr efengyl yn sicr o fod yn dragwyddol gadwedig. "Yr hwn sydd yn credu yn y Mab, y mae ganddo fywyd tragwyddol, &c., a'r hwn sydd heb gredu i'r Mab ni wel fywyd; eithr y mae digofaint Duw yn aros arno