Tudalen:Cofiant Cadwaladr Jones, Dolgellau.djvu/110

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

cyfiawnder arbed ein tad Adda am un munydyn wedi iddo droseddu—yr ydoedd tywalltiad yr oll oedd yn y bygythiad i fod arno yn ddigymysg a dioed.

3. Fod dyfodiad pob dyn i'r byd drwy, a than y drefn gyfryngol, ac nid dan y drefn a wnaed âg Adda.

Gwnaed sylwadau ar yr ysgrif flaenorol gan un o ohebwyr y Dysgedydd, ac amddiffynodd yr Hen Olygydd ei olygiadau: ond nid ydym yn gweled fod yn angenrheidiol i ni, er ateb dyben y cofiant hwn, ddifynu ei nodiadau amddiffynol. Nid ydym yn ammheu, ychwaith, na allasai ef fod yn fwy gwyliadwrus wrth ffurfio rhai o frawddegau yr erthygl ar "Gynnrychiolaeth Adda;" a buasai yn ddymunol pe buasai wedi trin y pwnge yn llawer helaethach, yn ei wahanol gysylltiadau, nag y gwnaeth: ond, dengys yr hyn a roddwyd yma gyfeiriad naturiol ei syniadau.

Am athrawiaeth ogoneddus yr Iawn dros bechod, golygai Mr. Jones, fel y Calfiniaid cymhedrol yn gyffredin, Fod aberth Crist yn anfeidrol yn ei natur, ei haeddiant a'i werthfawredd, ac yn sylfaen gadarn a digonol i alwad yr efengyl ar bob dyn i gredu yn Iesu Grist, "a chan gredu y caffont fywyd yn ei enw ef." Ni welai ef fod yn deg cyfyngu ymadroddion eang y Beibl am aberth y Cyfryngwr; megys y geiriau "y byd, yr holl fyd, bawb, pob dyn," at ran o'r byd, ac un dosbarth o ddynolryw; ac ni ystyriai fod y ffaith addefedig, mai rhan o'r byd, er ei fod y rhan fwyaf a gedwir trwy Grist, mewn un modd yn annghyson â helaethrwydd yr Iawn. Caiff ef etto lefaru drosto ei hun ar y pen hwn, a sylwa fel y canlyn:Gallai fod rhyw un yn barod i ofyn, Os yw Iawn Crist wedi cael ei roddi, ac yn cael ei ystyried yn ddigon dros holl ddynolryw, Pa fodd na fyddai holl ddynolryw yn gadwedig? I hyn gellir ateb:

1. Fod y gofyniad yn codi oddiar olygu yr Iawn fel taliad arianaidd o ddyled, a'i fod wedi gwneuthur Duw yn ddyledwr i ddynion. Ond mae y golygiad ar Iawn Crist yn gwbl annghyson â'r gwirionedd;—yn gwneuthur achub yn weithred