Tudalen:Cofiant Cadwaladr Jones, Dolgellau.djvu/109

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

ir y cyfryw ymadrodd wrth y creaduriaid direswm, y rhai nad ydynt yn ddeiliaid gorchymyn oddiwrth Dduw. Saif y geiriau hefyd yn eu perthynas â hiliogaeth Adda yn gystal ag yntau. Gan hyny, cynnwys yr ymadrodd y byddai iddo ef a'i hiliogaeth lenwi y ddaear o ddynion, y rhai a ddygid dan ddedfryd marwolaeth os byddai iddo ef fwyta o'r ffrwyth gwaharddedig.

3. Gwyddai y byddai iddo hâd oblegid y gosodiad o hono yn bencynnrychiolwr, i sefyll drostynt. Ni fuasai yn cydsefyll ag anfeidrol ddoethineb Jehofah ei osod yn ben i sefyll dros ddihanfodiaid; ond y mae y gosodiad ynddo ei hun yn rhagdybied yn anwadadwy y byddai iddo hiliogaeth.

4. Nid ar yr ammod o ufudd—dod i'r gorchymyn a gafodd Adda yr oedd bod iddo hiliogaeth yn ymddibynu; ond yr oedd Duw wedi penderfynu, a gwneyd yn ddealladwy, y byddai iddo hiliogaeth, a hyny yn hollol annibynol ar ei ufudd—dod ef, neu ar y llaw arall, ei anufudd-dod. Yr oedd gan Dduw drefn arall drwy yr hon y gallai, ac y gallodd, oedi cyflawniad y bygythiad yn yr amgylchiad o anufudd—dod. Gan hyny, gallwn gredu yn ddibetrus, fod truenusrwydd cyflwr ei hâd mewn canlyniad i'r cwymp, yn annogaeth gadarn ychwanegol iddo gadw ei le, yn gystal a'u dedwyddwch ar y llaw arall. Gan hyny, manteisiol, ac nid anfanteisiol, ydoedd y drefn i'w holl hiliogaeth.

Oddiwrth yr ystyriaethau blaenorol gwelwn—

1. Mai ynfyd ydyw pob dyn a lefaro yn erbyn trefn Duw. Yn y drefn hon, dengys Duw nid yn unig ei gyfiawnder, ond hefyd ei benarglwyddiaeth a'i ras;—ei gyfiawnder, yn gofyn dyn i roddi ufudd—dod rhesymol i'w Greawdwr a'i Gynnaliwr, ac yn cyhoeddi y ddedfryd farwol uwch ei ben am anufuddhau. Ei benarglwyddiaeth, yn ei greadigaeth a moddion ei brawf; ac yn neillduol ei waith yn myned i gyfammod âg ef, yn yr hwn y cafodd Adda a'i hiliogaeth lawer mwy o fanteision i fod yn ddedwydd na phe buasent yn sefyll bawb drostynt eu hunain yn bersonol.

2. Fod arbediad dyn wedi iddo bechu yn arwain y meddwl at y drefn gyfryngol. Oni buasai y drefn hon, nis gallasai