eu magu. Ai Dr. Johnson ai pwy sydd yn dywedyd, mai yr anrhydedd mwyaf a allai y gwr roddi ar ei wraig gyntaf, ydoedd iddo briodi yr ail; oblegid pe na phriodasai eilwaith gallesid casglu fod y gyntaf wedi chwerwi ei deimlad, a pheri iddo gael digon byth ar y bywyd priodasol! Nis gwyddom pa un, a ydoedd ein gwrthddrych am anrhydeddu coffadwriaeth y naill o'i wragedd trwy briodi y llall yn olynol, ai nad oedd. Beth bynag, yr ydym yn ei gael yn ffurfio cylch priodasol drachefn, a'r olaf weithian. Yn y flwyddyn 1847, y mae yn priodi â Mrs. Ellin Williams, diweddar o'r Maesgwyn, Llanuwchllyn. Yr oedd hithau hefyd yn wraig rinweddol a gofalus, o phrofodd yn "ymgeledd gymwys" i'w gŵr am yspaid 16 mlynedd. Ond hithau hefyd a fu farw, Mehefin 14eg, 1863, gan adael ei phriod yn unig ac mewn henaint. Claddwyd hi yn mynwent y Brithdir. Dyma faes Machpelah y teulu. Wedi claddu yr olaf o'i wragedd, y mae yn awr yn unig mewn henaint teg, fel gwyliwr ar y mûr
"Yn disgwyl ar angau,
I agor ei fedd.
Goroesodd yr olaf o'i wragedd o bedair blynedd; ac yntau wedi hyny a dynodd ei draed i'r gwely ac a fu farw, a chasglwyd ef at ei bobl. Y trallodion trymaf, yn ddiau, a'i cyfarfu yn y cylch teuluaidd ydoedd claddu ei wragedd. Efe a alarodd ar eu hol a galar mawr, ond nid annghymedrol meddianai ei enaid mewn amynedd. Claddodd hwynt mewn gwir ddyogel obaith, o adgyfodiad gwell. A bydd melus eu cymdeithas, mewn gwlad lle "nad ydynt yn gwreica nac yn gwra, canys byddant fel angylion Duw!" Ac er mor chwerw i deimlad ydoedd yr ymadawiad ar lan yr afon, etto nid ymollyngai efe. Yr oedd ganddo ffydd ddiysgog yn holl weinyddiadau rhagluniaeth ei Dduw, gan gwbl ymddiried ei fod ef yn rhy ddoeth i gyfeiliorni, ac yn rhy dda i wneyd cam a neb o'i eiddo. Yr oedd ei ffydd yn ddigon cref i dreiddio trwy niwl a thywyllwch yr amgylchiadau presenol, i foreuddydd goleu clir, y dyfodol, pan y caffai esboniad