Tudalen:Cofiant Cadwaladr Jones, Dolgellau.djvu/176

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

boddhaol ar holl droion yr yrfa. "Y pethau yr wyf fi yn eu gwneuthur, ni wyddost ti yr awrhon, eithr ti a gei wybod ar ol hyn."

"O fryniau Caersalem ceir gweled
  Holl daith yr anialwch i gyd."

Magodd Mr. Jones deulu lluosog mewn blynyddoedd o iselder a chaledi; pan nad oedd yr eglwysi o dan ei ofal ond bychain a gweiniaid. Bu yn briod serchog, ac yn dad tirion a gofalus. Yr oedd lles a chysur ei deulu yn gorphwys yn agos at ei galon. Darparodd fanteision addysg i'w blant fel ag i'w cymwyso gogyfer a'r galwedigaethau a fwriedid iddynt. Dygodd bedwar o'i feibion i fynu yn fasnachwyr, a dau yn amaethwyr. Ni arbedodd draul na llafur er rhoddi cychwyniad teg iddynt yn eu galwedigaethau, a chafodd fyw i fwynhau y pleser o'u gweled oll wedi ymsefydlu drostynt eu hunain.

Wedi iddo ymsefydlu fel penteulu, a chael pabell iddo ei hun i drigo ynddi, nid yw efe yn anghofio codi allor yno, i Arglwydd Dduw Israel. Credai ef fod cysylltiad agos cydrhwng gwasanaeth yr "allor deuluaidd" â chysur a llwyddiant amgylchiadol y teulu. Byddai hen Feibl Peter Williams, yr arferai ein gwrthddrych ei ddefnyddio, ar yr awr benodedig, yn cael ei osod ar y bwrdd, ac yn y weddi-byddai

"Y nefoedd a'r ddaear
Yn nghyd wedi cwrdd."

Ar ol ciniaw, ganol dydd, yr arferid cadw y "ddyledswydd deuluaidd " yn Nghefnmaelan. Mewn ffermdy, felly yn y wlad, yr oedd yn anhawdd cael y gweision a'r morwynion yn nghyd ar un adeg arall, o leiaf, dyma yr awr fwyaf cyfleus i bawb ymgynull o amgylch yr allor deuluaidd yn Nghefnmaelац. Arferid "cadw dyledswydd" yno hefyd yn yr hwyr, cyn ymneillduo i orphwys, fel y byddai yr amgylchiadau yn caniatau. A phan na byddai neb o'r dynion a arferent weddio yn bresenol, a'r penteulu heb ddychwelyd o'r society o'r Brithdir, Rhydymain, neu Ddolgellau, byddai Mrs. Cathrine Jones yn arfer ag arwain y gwasanaeth ei hunan. Yr oedd ei