Tudalen:Cofiant Cadwaladr Jones, Dolgellau.djvu/181

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

wrtho, ei fod wedi ei flino nes methu a chysgu am gryn amser y noson hono, o herwydd y siarad diystyrllyd, y cydunai ef ynddo â'r gwas y nos o'r blaen—ei fod ef yn ei rybuddio ar bob cyfrif i ochelyd, rhag coleddu syniadau mor isel a sarhaus am weinidogion yr efengyl, na chydsynio a'r cyfryw a'u sarhaent. "Oblegid," ebe fe, "os dechreui di goleddu syniad isel am weinidogion a phregethwyr, y mae yn anhawdd gwybod pa le y diweddi di." Ac ychwanegai, "os meddwl yn isel am weinidogion a wnei, beth yn amgen a feddyli am eu gweinidogaeth ?" Yr oedd yn hawdd deall arno, ei fod wedi ei ddolurio yn y siarad nos Sadwrn, ac yr oedd arno bryder i ragflaenu y drwg a allasai arwain i ganlyniadau peryglus. Ofnai rhag i'w blentyn fyn'd o'r drwg hwn i waeth, nes o'r diwedd efallai sangu tir andwyol yr anffyddiwr. Yr oedd ei ddull pwyllus, a thyner o geryddu yn ofnadwy i'r bachgen, yr hwn a dorodd allan i wylo; ac ond odid na bu efe yn ofalus o hyny allan, rhag dyfod yn agored i gerydd arall. "O mor dda yw gair yn ei amser,' ," "Gair a ddywedir mewn amser sydd fel afalau aur mewn gwaith arian cerfiedig."

Gelwid ar ein gwrthddrych yn aml i weinyddu dysgyblaeth yn ei deulu, oblegid nid yw plant gweinidogion yn rhagori ar blant rhyw rai eraill, ac nid oedd ei blant yntau ond fel rhyw blant eraill. Yr oedd y "wialen fedw" bob amser yn ei lle, wrth law, a gelwid arno weithiau i'w harfer; ond pan y gweinyddai efe y cerydd trymaf, byddai yn gwneyd hyny yn bwyllog, ac ystyriol, gan adael argraff ar feddwl y plant, fod y cwbl o angenrheidrwydd ac nid o ddewisiad—er lleshad iddynt.

Cyfeiriodd yr hybarch H. Morgan, Sammah, y llythyr canlynol at Mr. C. R. Jones, Llanfyllin—a dodwn ef yn y fan hon, am ei fod yn dal perthynas neillduol a'r pen hwn.

ANWYL GYFAILL,

Da genyf eich bod yn bwriadu cyhoeddi cofiant eich diweddar anwyl dad; yr hwn yr oeddwn yn adnabyddus ac yn dra hoff o hono er's yn agos i 50 o flynyddoedd. Yr oeddwn yn ei ystyried bob amser yn gyfaill pur a didwyll, yn ddoeth yn ei ymddygiadau, adeiladol yn ei gynghorion, a'i bwyll, a'i amynedd yn hysbys i bob