Tudalen:Cofiant Cadwaladr Jones, Dolgellau.djvu/182

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

dyn. Cefais lawer o gyfleusderau i fod yn ei gyfeillach mewn cyfarfodydd, yn Meirion, a Maldwyn, a manau eraill am 40 o flynyddoedd. Byddai y gweinidogion cymydogaethol yn cael mantais i gymdeithasu a'u gilydd y pryd hwnw. Nid oedd y drefn o anfon am 2 neu 3 o weinidogion o bellderau mewn arferiad y pryd hwnw—ac yr wyf fi yn barnu fod yr hen ddull yn well na'r newydd ar lawer ystyriaeth, yn neillduol er meithrin undeb a chariad rhwng gweinidogion a'u gilydd. Byddwn yn cael cyfle i gyfeillachu ag ef am ddiwrnod bob blwyddyn, dros lawer o flynyddau, pan oedd efe yn Olygydd y Dysgedydd, a minau yn myned trwy y De, neu Meirion, a Maldwyn yn ei achos am flynyddoedd. Golygydd rhagorol ydoedd. Yr oedd yn feddianol a'r bwyll, doethineb, a gwybodaeth, fel yr oedd yn rhagori yn hyny yn mhell ar y cyffredin o'i frodyr. Y mae yn gofus genyf pan yn cyd-deithio ag ef â Mr. Roberts, Llanbrynmair, ac eraill, o ryw gyfarfod yn Ffestiniog, byddent hwy yn ymresymu ar hyd y ffordd, ar ryw bwngc crefyddol. Aethom gyda Mr. Jones i'r Trefeiliau, (yno yr oedd yn byw y pryd hwnw) wedi gorphwys ychydig yno, a chael lluniaeth i ni a'n hanifeiliaid, aeth Mr. Roberts a minau ymaith, ac ar y ffordd dywedai Mr. Roberts wrthyf fod arno fwy o ofn Jones, Dolgellau, mewn dadl bersonol na neb a welodd erioed. Gofynwn iddo, paham? "Y mae" ebe yntau, "mor bwyllus yn gofyn ambell gwestiwn, gan wenu, fel y gellid meddwl ei fod yn cydweled a chwi yn mhob peth. Mae o yn sicr o gael dyn i'r fagl byddaf yn treio tendio fy ngoreu. Mae o yn ddyn craff anghyffredin." Yr oedd yn graff a phwyllus y tu hwnt i'r cyffredin.

Ni welais un dyn erioed yn gweini dysgyblaeth deuluaidd mor bwyllus. Yr oeddwn yn y Trefeiliau er's oddeutu 38 mlynedd yn ol, yn rhoddi cyfrif o'm taith yn achos y Dysgedydd, ac yr oeddym wrthi yn hynod ddiwyd. Yr oedd un o'r plant gerllaw yn hynod afreolus, ac yn cadw cryn dwrw—ceisiai gan y gwr bach dewi, a bod yn llonydd, ond yn aflwyddianus; dywedai drachefn a thrachefn wrtho, ond swnio a chrio yr oedd y bachgen nes ein drysu yn lân. Dywedai y tad wrtho—"Taw di, da machgen i, a cherdd ymaith, onid te rhaid i mi gymeryd y wialen fedw!" Gwelwn ef yn codi yn bwyllus, a digyffro, yn cyrhaedd y wialen, ac yn myned ato, yn dyweyd cyn taro, "da machgen i, cwyd yn lle i mi dy daro di." Taro fu raid, a tharo yn drymach drachefn, dywedai wed'yn, yn bwyllus a thyner, "Taw a chwyd i fyny machgen i, onid te rhaid i mi dy frifo di." Meddwn inau ynof fy hun, a rydd efe i fyny, gwelwn y bachgen yn codi, ac yn rhoi i fyny, yn tawelu, ac yn myn'd allan yn ddistaw, a didwrw! Ni welais yn fy oes neb yn ceryddu ei fab mor dadol, ac ysgrythyrol. Mae yr hanes yna yn werth i rieni plant ei efelychu yn ei ddull ac yn ei ysbryd. Bum yn meddwl am, ac yn adrodd yr hanes lawer gwaith. Dangosai gasineb at y trosedd, ac anwyldeb at ei fab. Bu bywyd Mr. Jones yn addurn i'r efengyl a bregethai dros gynifer o flynyddau; a phethau yr efengyl oedd ei bethau pan yn myn'd i lawr i'r glyn. Nis gallwn lai na dywedyd, wrth edrych ar drigolion Dolgellau, a'r cymydogaethau ddydd ei angladd "Wele fel yr oeddynt yn ei garu ef." "Ystyr y cyfiawn, ac edrych ar yr uniawn, canys diwedd y gwr hwnw fydd tangnefedd."

Ebrill 9fed, 1868.

H. MORGAN, Sammah.