yn lluosogi rhifedi ei gymydogion ef yn ddirfawr. Yr oedd ei gymydogaeth mor eang, a dweyd y lleiaf, a'i gymydogion mor aml a chylch ei weinidogaeth. Ond sir Feirionydd, y rhan ddeheuol o honi, ydoedd ei blwyf neillduol ef. Cyfeirid tua Chefnmaelan o bob cwr, ar ryw achos neu gilydd, yn achlysurol. Yr oedd yr holl wlad yn ei adnabod, a chanddynt ymddiried diwyrni ynddo. Efe, oedd wedi bedyddio, a phriodi, a chladdu llawer iawn o'r trigolion presenol, yn ol ei gofrestr ef ei hun-"Llyfr y bedyddiadau," yr ydym yn gweled ei fod yn dechreu gweini yr ordinhad o fedydd yn mhen yr wythnos wedi ei urddiad. Y cyntaf a ddygwyd ato i'w fedyddio, ydoedd Mrs. Gwen Evans, o'r Garthblwyddyn, ac un o'i gymydogion agosaf, Mai 10fed, 1811. Yr oedd y Parch. G. Hughes, o'r Groeswen, yn pregethu yn y Brithdir yn yr hwyr y dydd hwnw. A phan y dygwyd y plentyn i'r capel i'w fedyddio, ceisiodd y gweinidog ieuangc gan yr hen weinidog weinyddu yr ordinhad-ac felly y bu. Y cyntaf a fedyddiwyd ganddo ef ei hun, ydoedd David Davies, o'r Pantycefn, yr hwn hefyd a ddaeth yn gymydog agos iddo, Mai 27ain, 1811. A'r olaf a gofrestrwyd ganddo ef yn "Llyfr y bedyddiadau," ydoedd Cathrine, merch i Robert Lloyd, ac Elizabeth ei wraig, Bontfawr, Dolgellau, Awst 11eg, 1867. Yr ydym yn meddwl iddo fedyddio rhai ar ol hyn, ond nid yw efe wedi eu cofrestru.
Cydrhwng y ddau ddyddiad yna, efe a gymerth rai canoedd o blant bychain Meirionydd yn ei freichiau, ac a'u cyflwynodd i'r Arglwydd yn yr ordinhad o fedydd. Gwelodd luaws o'r cyfrywa fedyddiasai wedi tyfu i fyny i oedran gwyr a gwragedd. Efe a fu yn gweini, drachefn, ar achlysur eu hundeb priodasol, gan eu tynghedu i ffyddlondeb wrth "Allor Hymen" hyd oni wahanai angau hwynt. Efe a fedyddiodd eu plant, a
phlant eu plant, hyd yr ail a'r drydedd genhedlaeth.
Yr ydym braidd yn meddwl, chwedl yntau, iddo gymeryd llawn mwy o drafferth arno ei hun, nag oedd yn angenrheidiol, trwy fyned ar gais rhieni, yn ormodol i'r tai. Nid gwaith y gweinidog ydyw cyrchu o dŷ i dŷ, i fedyddio plant ei gym-