ydogion, ond eu dyledswydd hwy, ydyw dwyn eu plant i fan cyfleus a phriodel i'w bedyddio.
Pa ryw nifer o'r plant a gyflwynwyd ganddo i'r Arglwydd yn yr ordinhad o fedydd, a fyddant yn "goron ei orfoledd” ef, y "dydd hwnw" yn unig a ddengys. Efe a roddodd ddeheulaw cymdeithas i luaws o honynt drachefn, wrth eu derbyn yn aelodau o eglwys Dduw; ond yr ydym yn ofni, nad all efe ddyweyd, am yr oll o'r rhai a fedyddiwyd ac a dderbyniwyd yn gyflawn aelodau ganddo, yn y dydd mawr ac ofnadwy hwnw, "Wele fi a'r plant a roddes Duw i mi."
Ac heblaw y pethau hyn, yr oedd efe yn ffyddlon i ymweled â'i gymydogion yn eu cystudd a'u hadfyd. Ceisiai weinyddu o gysuron y gair i'r cyfryw a rodient y glyn; a phwy bynag o honynt a syrthiai trwy law angau, nid oedd neb a welid yn fwy sicr yn cydhebrwng eu gweddillion tua'r fynwent nag efe. Ac nid oedd ei Ymneillduaeth ef, yn rhy gul a chyfyng fel ag i'w atal i mewn trwy y porth i'r fynwent, ac i eglwys y plwyf, os yno y cleddid y marw, a gwrando yn syml y gwasanaeth olaf, uwchben eu gweddillion cyn eu gadael yn "man fechan eu bedd." Yn ychwanegol at y pethau hyn, yr oedd efe yn gwasanaethu ei gymydogion mewn dulliau eraill. Ystyrid ef gan gylch eang o'i adnabyddion yn Meirion fel un o'r rhai mwyaf cyfaddas i'w cyfarwyddo, a'u cynghori yn ngwyneb gwahanol helyntion ac amgylchiadau tymhorol, yn gystal ag yn y pethau a berthynent i'w hiachawdwriaeth dragywyddol. Meddai a'r fwy o gymhwysder na'r cyffredin i gynghori a chyfarwyddo yn ngwyneb amgylchiadau dyrus a neillduol. Yr oedd ei synwyr cyffredin, a'i bwyll, a'i brofiad, a'i wybodaeth, yn gydgyfarfyddiad lled anghyffredin yn yr un person. Anaml y ceid neb heb fod yn gyfreithiwr proffesedig, yn meddu ar gymaint o wybodaeth a chyfarwydd-deb yn nghyfreithiau cyffredin ei wlad, ac yn agweddiad y gyfraith ar wahanol amgylchiadau bywyd. Yr oedd deall ei feddwl ef, gan hyny, yn bwysig, a'i gynghor bob amser yn werthfawr. Ymofynid âg ef, fel âg oracl, ar faterion ag y byddai unrhyw betrusder yn eu cylch. Bu yn