Tudalen:Cofiant Cadwaladr Jones, Dolgellau.djvu/21

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Wedi i Mr. Jones ddechreu pregethu yn gyhoeddus, bu yn ddiwyd, ymroddgar, ac egnïol iawn yn y gwaith pwysig yr ymafaelasai ynddo. Pregethai ar y Sabbothau yn agos ac yn mhell, fel y byddai galwad am ei wasanaeth. Pregethai lawer ar nosweithiau gwaith yn ardaloedd y plwyf eang y ganesid ef ynddo, a Chwm-glan-llafar. Nid oedd braidd dŷ yn mhlwyf Llanuwchllyn na bu ef ynddo yn pregethu, yn ystod y tymhor, o'r flwyddyn 1806 hyd 1811; ac yr oedd ei weinidogaeth yn dderbyniol a chymeradwy gan bob gradd. Yr oedd amryw bethau yn dra ffafriol iddo fel pregethwr. Ni chawsai nemawr o anogaeth i fyned i'r weinidogaeth gan ei rieni. Yr oedd yn wr ieuange glândeg a lluniaidd, a hynod o serchus yn ei holl ymwneyd â'i gymmydogion. Yr oedd yn sobr a siriol, a'i ymddygiadau yn mhob peth yn addas i'r efengyl. Yr oedd yn bwyllus a synwyrol, ac yn deall ei Feibl yn dda. Yr oedd ei lais yn beraidd a swynol iawn, ac ni flinai ei wrandawyr â phregethau afresymol o feithion. Yr oedd yn agos at bawb heb fod yn rhy agos at neb, ac yn byw yn ddirodres fel ei gymmydogion yn gyffredinol.

EI DDERBYNIAD I'R ATHROFA.

Yn fuan wedi iddo ddechreu pregethu, dechreuodd Mr. Jones deimlo ei angen am ychwaneg o ddysg mewn trefn i fod yn weinidog defnyddiol yn eglwys Dduw, ac aeth i'r Athrofa oedd y pryd hwnw dan ofaly Parch. Jenkyn Lewis yn Ngwrexham. Derbyniwyd ef fel myfyriwr yno Tachwedd 30, 1806. Treuliodd dros bedair blynedd, weithiau yn yr Athrofa ac weithiau gartref gyda ei dad yn gweithio ar y tyddyn. Treuliai y gauaf yn Ngwrexham, a'r haf yn y Deildref; a bu yn ddyfal iawn yn casglu gwybodaeth yn y Coleg, ac yn pregethu o gylch ei gartref bob yn ail, y blynyddau hyn. Ar ei draul ei hun yr oedd efe yn yr Athrofa, os nad ydym yn camgofio; ac felly, rhanai ei amser rhwng ei hawliau meddyliol a'i oruchwylion tymhorol. Yr oedd yr enwog Williams o'r Wern yn y Coleg ar unwaith ag ef ar y cyntaf, a'r galluog