Tudalen:Cofiant Cadwaladr Jones, Dolgellau.djvu/22

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Michael Jones wedi dyfod yno cyn iddo ef ganu yn iach i Wrexham. Bu yn gydfyfyriwr a'r ddau am dro, a mawr oedd ei barch iddynt tra fu byw.

Pan yn preswylio gyda ei rieni yn Llanuwchllyn, pregethai Mr. Jones yn fynych yn Rhydymain, y Brithdir, Dolgellau, Llanelltyd, a'r Cutiau, y lleoedd yn mha rai yr ydoedd "Pugh o'r Brithdir yn ei flodau" yn gweinidogaethu, gan lafurio yn galed a diflino mewn amser ac allan o amser. Brodor o'r Brithdir oedd Mr. Pugh. Ei gartref cyn iddo briodi oedd y Perthi-llwydion. Dywed un pur gymhwys i farnu am dano fel y canlyn:—"Yr oedd Mr. Pugh yn bregethwr hyawdl a galluog, yn serchog o ran ei deimladau, ac yn gyfaddas iawn yn mhob ystyr i fod yn efengylwr ei fro enedigol." Yr oedd cylch gweinidogaeth Mr. Pugh yn cyrhaeddyd o'r Garneddwen i'r Abermaw, ac o Fwlch-oer- ddrws i ucheldiroedd y Ganllwyd; darn o wlad oedd yn ddeunaw milldir o hyd wrth ddeuddeg o led. Nid am ryw lawer o flynyddoedd y bu y pregethwr ieuangc hyawdl a gwlithog hwnw ar y maes; ond bu yn dra llwyddianus a chymeradwy gan bawb yn ei dymhor byr. Efe oedd y gweinidog cyntaf a fu yn llafurio gyda yr Annibynwyr yn sefydlog, yn yr ardaloedd o amgylch Dolgellau. Pregethai yn mhob man lle yr agorai Rhagluniaeth ddrws iddo. Yn ei amser ef y derbyniwyd y personau canlynol yn aelodau eg- lwysig:—yn Llanelltyd Mr. Thomas Davies, Trefeiliau; y Parch. Edward Davies, Trawsfynydd; Evan James, Cylchwr; Richard Roberts, o Felin y Ganllwyd, a'i wraig; Rees Griffith, Farchynys, a'i wraig; Cathrine Jones, o'r Sylfaen; Margaret Jones, o'r Faner, ac eraill llai adnabyddus. Derbyniwyd yn y Brithdir o gymmydogaethau Dolgellau, fel ffrwyth llafur Mr. Pugh, cyn bod un eglwys ffurfiedig yn y dref ei hun gan yr Annibynwyr, John Evan, Talywaun, a'i wraig; Evan Dafydd, Gellilwyd, a'i wraig; Ann Jones, Pant-y-piod; William Vincent; Morris Dafydd, (Meurig Ebrill); Evan Owen, Gyllestra; Cathrine Thomas, Dolrisglog; John Mills, Hafod-dywyll, a'i wraig; Morris Evan, o'r Gilfachwydd;