Tudalen:Cofiant Cadwaladr Jones, Dolgellau.djvu/23

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Elizabeth Ellis; John Lewis Owen, ac amryw eraill. Yr ydym yn enwi y rhai uchod am fod Mr. Jones wedi eu nodi fel rhai oeddynt yn ei wahodd ef i weinidogaethu i'r ardaloedd hyny, fel olynydd i Mr. Pugh. Gallai hefyd na fydd yn ddrwg gan gymmydogion iddynt a adwaenent rai o honynt, a disgynyddion oddiwrthynt, weled eu henwau yn Nghofiant yr Hybarch Cadwaladr Jones.

Yn Ebrill, 1808, prynodd Mr. Pugh addoldy y Trefnyddion Calfinaidd yn Nolgellau, yn nghyd a'r tai perthynol iddo, am £500; a phregethwyd yn y capel gan y ddwy blaid hyd nes y daeth capel newydd y Trefnyddion yn gymhwys iddynt i addoli ynddo.

Un waith cyn ymadawiad y Trefnyddion, gweinyddwyd swper yr Arglwydd i gynifer o'r Annibynwyr a allwyd gael yn nghyd o Rydymain, Brithdir, Llanelltyd, a'r Cutiau, pryd yr eglurodd Mr. Pugh sylfaeni Ymneillduaeth, y dull ysgrythyrol o ymarfer a'r ordinhad o swper yr Arglwydd, a dybenion. sefydliad yr ordinhad, ac amryw o bethau pwysig eraill. Bu ei sylwadau yn achlysur i roddi tramgwydd i rai o'r Trefnyddion; ond rhoddasant foddlonrwydd mawr i lawer eraill.

Nid hir y bu Mr. Pugh yn llafurio gyda ei hyfryd waith wedi sefydliad yr eglwys yn Nolgellau; oblegid bu farw o'r clefyd coch, Hydref 28, 1809, er mawr alar i'r holl fân eglwysi oedd dan ei ofal, a cholled i ogledd Cymru yn gyffredinol.

EI ALWAD YN OLYNYDD I'R PARCH. H. PUGH.

Yn y flwyddyn ganlynol, 1810, dechreuwyd meddwl am gael olynydd teilwng i Mr. Pugh. Tueddid rhai i roddi galwad i'r diweddar Barch. D. Morgan, o Lanegryn y pryd hwnw, a thueddid eraill i roddi galwad i Cadwaladr Jones, o Lanuwchllyn. Clywsom fod etholiad tỳn wedi cymeryd lle ar yr amgylchiad, ac mai Cadwaladr Jones a ennillodd, neu yn hytrach y dosbarth oedd drosto, o ryw ychydig iawn. Ymostyngodd y lleiafrif i'r mwyafrif; rhoddwyd galwad unfrydol i Mr. Jones, a chydsyniodd yntau â hi. Clywsom mai un peth a