&c., yn yr Eisteddfod Genhedlaethol, barnai y gallent dreulio rhan hefyd o'u hamser, yr un mor wasanaethgar i'w cenedl ac i achos y Gwaredwr, gydag egluro egwyddorion, dadleu dros amcanion, ac argymhell hawliau Cymdeithas Rhyddhad Crefydd Iesu Grist oddiwrth nawdd a rheolaeth y llywodraeth wladol. Gwyddai fod gan y Gymdeithas waith mawr i'w gyflawni, ac y gofynai gryn amser i'w orphen, oddiar y ffaith fod yr ymdrech am oddefaint crefyddol wedi parhau gan' mlynedd, a'r ymdrech am ryddid crefyddol gan' mlynedd yn ychwanegol; a bod yr Ymneillduwyr wedi ymdrechu gant a deugain o flynyddau cyn iddynt lwyddo i gael gan y Senedd i ddiddymu Deddfau gormesol Prawf a Bwrdeisiaeth. Yr oedd o'r farn, gan hyny, na ddylai un Ymneillduwr oedi datgan ei hun yn ffafriol i'r Gymdeithas, na chywilyddio arddel ei hegwyddorion, a chefnogi ei hamcanion. Tybiai y byddai y fath oedi a chywilyddio, nid yn unig yn annghyson a'i broffes, ac yn ddiystyrwch ar y goddefiant a'r rhyddid crefyddol a sicrhawyd i ni trwy ymdrechion dibaid ein teidiau a'n tadau, ond hefyd o duedd i daflu rhwystrau ar ffordd gorpheniad y gwaith a ddechreuwyd mor wrol, ac a ddygwyd yn mlaen mor benderfynol ganddynt hwy, sef diddymu pob cyfraith a ymwthiodd i ddeddf-lyfr ein gwlad, ag sydd yn dyrchafu y naill ddosbarth ac yn darostwng y llall o ddeiliaid y deyrnas, ar gyfrif eu syniadau crefyddol! Credai y patriarch o Ddolgellau fod egwyddorion yr Ymneillduwyr yn wirioneddol ac ysgrythyrol; ac felly, "Ni chywilyddiai" eu harddel ar bob adeg ac achlysur y gofynid iddo gan ei ddoethineb. Gan hyny, nid ydym yn rhyfeddu wrth ddarllen yn ysgrif "R. O. R.," yn y Tyst Cymreig, am y teimladau drylliog a amlygid gan bob plaid grefyddol ar ddydd ei angladd; ac am y parch a ddangosid iddo gan Eglwyswyr, ac hyd yn nod gan yr offeiriaid, o'r archddiacon i lawr; canys nis gall y natur ddynol, rywsut, er ei holl ddiffygion, lai na pharchu ac edmygu y gonest i'w, a'r cyson a'i broffes, tra mae yr anffyddlon i'w egwyddorion proffesedig yn gwneyd ei hun yn ddirmygedig yn ei golwg.
Mae yn iawn i ni obeithio am ddisgyniad deuparth o ysbryd Ymneillduol y patriarch ymadawedig ar weinidogion, swyddogion, ac aelodau eglwysi Annghydffurfiol Dolgellau, Meirion, a holl Ogledd Cymru; oblegid mae dydd y frwydr benderfynol, sydd i'w hymladd rhwng cefnogwyr crefyddau sefydledig a phleidwyr crefydd y Testament Newydd, wedi gwawrio eisoes. Mae y blaenaf, ar ol gweled aneffeithioldeb merthyru,