Neidio i'r cynnwys

Tudalen:Cofiant Cadwaladr Jones, Dolgellau.djvu/242

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

poenydio, dirwyo, a charcharu yr Ymneillduwyr, i atal lluosogiad eglwysi rhyddion yn ein gwlad, yn dechreu defnyddio moddion teg i hudo encilwyr o fysg yr olaf; ac y mae yn bosibl i'r gwan, yr ansefydlog, a'r gwamal gael eu twyllo (megys y twyllwyd Efa gan y sarff, ac y twyllir llawer etto gan Satan yn rhith angel y goleuni), gan weniaith y curad, gwenau y vicar, ysgydwad llaw y periglor, a gwlaneni Nadolig yr yswain. Nid dyma y tro cyntaf iddynt ymddwyn yn wenieithgar at yr Ymneillduwyr, er cael eu cymhorth i gyrhaedd eu hamcanion personol. Wedi methu difetha yr Annghydffurfwyr yn nheyrnasiad Charles II., â Deddfau Unffurfiaeth, Ty Cwrdd, a Phum' Milldir, &c., troisant atynt yn wenieithiol i ddymuno eu cynnorthwy yn erbyn Iago II., pan dybient ei fod am Babeiddio y genedl, ac felly peryglu "gobaith eu helw." Eithr nid cynt y llwyddasant i gael cydweithrediad yr Annghydffurfwyr i ddadymchwelyd Iago II., ac y dyogelwyd iddynt eu manteision eglwysig, nag yr ymosodasant mor ffyrnig ag erioed yn erbyn iawnderau dinasol a breintiau crefyddol yr Ymneillduwyr, fel y gwelir yn ystod teyrnasiad y frenhines Ann, &c. Cofier y ffeithiau hyn, a chymerer addysg oddiwrthynt, yn ngwyneb y cynyg presenol i ddenu yr Ymneillduwyr a'u darbwyllo i ymuno yn erbyn cynydd Pabyddiaeth ac Anffyddiaeth yn yr Eglwys Sefydledig, yn hytrach nag yn erbyn y cysylltiad anachaidd ag sydd rhwng yr Eglwys hono a'r llywodraeth. Ond nid oes dyogelwch i'r Eglwys, tra mewn undeb a'r gallu gwladol; na sicrwydd y caiff yr Ymneillduwyr barhau yn y mwynhad o'u rhyddid presenol, tra y byddo y gallu offeiriadol mewn grym. Dyma brif elyn rhyddid drwy yr oesau. Yr oedd y gallu gwladol am ollwng y Gwaredwr yn rhydd; eithr mynai y gallu offeiriadol ei groeshoelio a'i ladd. Llawer o weithiau, ar ol hyny, y bu y blaenaf yn ffafriol i ryddhau ei ganlynwyr ffyddlon, pan gymerai yr olaf, yn ddieithriad bron, yr ochr wrthwynebol i'r ddadl. Mae yn ffaith hanesyddol fod yr offeiriaid, fel dosbarth, wedi bod yn wrthwynebol i ryddid y bobl, a bod y rhyddid yr ydym yn ei fwynhau yn awr wedi ei gael ar eu gwaethaf, trwy i'r Ymneillduwyr barhau i gynhyrfu y wlad yn ddibaid am o gwmpas tri chan' mlynedd. O ganlyniad, mae braidd yn ormod i'n natur dda ddyoddef clywed ambell i Ymneillduwr, mewn enw, fodd bynag, sydd yn mwynhau rhyddid i addoli yr Arglwydd, a gostiodd yn agos i dri chan' mlynedd o gynhyrfu ac aflonyddu y wladwr-