Tudalen:Cofiant Cadwaladr Jones, Dolgellau.djvu/26

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

eu plith. Mae ger ein bron y drwydded a gafodd efe i bregethu yr efengyl mewn llys agored yn y Bala, ar yr unfed dydd a'r bymtheg o Orphenaf, 1807, wedi ei harwyddo gan ysgrifenydd yr heddwch yn y llys; ond nid yw o bwys debygem ei dodi i mewn yma. Y mae hefyd ger ein bron y dystysgrif a arwyddwyd gan y gweinidogion oeddynt yn ei urddiad, wedi ei hysgrifenu yn ddestlus iawn gan y Parch. Benjamin Jones, Pwllheli. Mae hon yn werth ei rhoddi i mewn. Dyma hi:

DOLGELLEY, 23rd of May 1811.

This is to certify to all whom it may concern that the Rev. Cadwaladr Jones was publickly and solemnly set apart and ordained by prayer and imposition of hands, as a Protestant Dissenting Minister of the Congregational order at Brithdir, Dolgelley, &c., on Thursday, 23 day of May, one thousand eight hundred and eleven. Witness our hands the day and year above written.

Benjamin Jones, P.D. M, Pwllheli.
George Lewis, Llanuwchllyn.
John Roberts, Llanbrynmair.
James Griffiths, Machynlleth.
William Hughes, Dinas.
William Jones, Trawsfynydd.
David Roberts, Llanfyllin.
James Davies, Aberhavesp.
John Lewis, Bala.
William Williams, Wern.
Jonathan Powel, Rhosymeirch.

Y cwbl a allasom ni gael allan am waith y cyfarfod ydyw, mai Dr. Lewis a bregethodd ar ddyledswydd y gweinidog. Ni ddywedir wrthym pa destyn a gymerodd. Heblaw hyny, dywedir mewn nodyn o eiddo y gweinidog ieuange, fod Dr. Lewis; William Jones, Penstreet; a John Lewis, Bala, wedi ymadael a'r dref cyn i Mr. Jones, Pwllheli, gael y dystysgrif yn barod i'w harwyddo y dydd hwnw. Nid ydym yn rhy- feddu fod y Doctor Lewis yn prysuro tuag adref wedi gorphen ei waith; na bod Mr. Jones, Trawsfynydd, yn cychwyn yn gynar i'w ffordd faith, lechweddog, a throm; ond pa brysur- deb, tybed, oedd ar Mr. John Lewis, o'r Bala, y diwrnod hwnw, mwy na rhyw ddydd arall? Byddai ef ar ol bob amser yn mhob man; a phe buasai yn byw yn ein dyddiau ni,