Tudalen:Cofiant Cadwaladr Jones, Dolgellau.djvu/29

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

wedi llwyr wywo ei nerth, er ys oesoedd lawer, ac yn gorwedd arni fel y barug a'r llwydrew. Yr oedd yn aros yn dawel "yn marwolaeth." Ymroddai y gweinidogion i fyw "yn ol helynt y byd hwn," gan fwynhau gwaddol eu Heglwys, a phob rhyw ddifyrwch llygredig oedd mewn bri yn yr "amseroedd enbyd" hyny. Nid ymdrechent ond ychydig am ddychwelyd eneidiau at Iesu Grist. O'u rhan hwy, buasai gogledd Cymru, hyd y dydd hwn, yn anialwch moesol, gwag erchyll. Diau, hefyd, fod eithriadau i'r dull hwnw o fyw i'w gweled, yma a thraw, yn eu plith; ond yr oeddynt yn anaml, fel ymweliadau angylion, ac yn hollol amddifad o ddylanwad cyffredinol ar y boblogaeth. Cafodd yr Eglwys. Wladol yn Nghymru, ragorach manteision i grefyddoli y wlad nag a gafodd ei chwaer yn yr Iwerddon; ond er hyny profodd. ei hunan yn hynod o ddiwerth, ac yn hollol annheilwng o'r sefyllfa bwysig y gosodwyd hi ynddi. Yr oedd ganddi waith. mawr i'w gyflawni, a gwaddol mawr a sier i fyw arno; ond yr hyn a wnaeth hi oedd, byw ar y cyfoeth, esgeuluso y gwaith, ac erlid a dirmygu yr Ymneillduwyr, y rhai dan bob anfanteision, a ymdrechent ei gyflawni. Pan oedd gwrthddrych y cofiant presenol yn llangc, yr oedd crefydd ysbrydol yn isel iawn, yn yr eglwys sefydledig, drwy yr holl wlad, yn gystal ag yn y plwyf lle y magwyd ef. Safai eglwys y plwyf, yn Llanuwchllyn, yn y canol rhwng capelau yr Ymneillduwyr. Ychydig oedd nifer y bobl a gyrchent iddi. Ar foreuau y Sabbothau, brysiai yr offeiriad drwy y gwasanaeth, ac yna, rhuthrai y clochydd allan, safai ar ben clawdd y fynwent, pan fyddai y bobl yn dychwelyd i'w cartrefi o'r moddion yn yr addoldai ymneillduol, i gyhoeddi ffeiriau, a phethau cyffelyb, er adeiladaeth dymhorol i drigolion y plwyf. Wrth ystyried pethau fel hyn, nid ydym yn rhyfeddu fod meddwl gwastad. a golenedig Cadwaladr Jones yn eilio yn naturiol oddiwrth y llan, ac yn ymwasgu at yr Ymneillduwyr, er fod ei rieni yn ymlynu wrth y defodau a ddysgasid iddynt gan eu hynafiaid. Parodd gweinidogaeth ddeddfol a di-Grist y personiaid, ac ymddifadrwydd y llanau o grefydd ysbrydol, i luoedd