Tudalen:Cofiant Cadwaladr Jones, Dolgellau.djvu/28

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

"Os na fedri di wneyd pregeth yn well nag y medri wneyd das o wair, ni thali di mo'r baw." Mae y pethau a glywsom o bryd i bryd ar y mater hwn, yn codi rhyw awydd ynom am wybod yn gywir beth oedd syniadau a theimladau y rhieni, pan welsant eu mab yn rhoddi y cam, dialw yn ol, i gyflawn. waith y weinidogaeth; ond nis gallwn ond dyfalu eu bod yn meddwl cryn lawer, ac yn dyweyd ond ychydig; a bod y gwas crefyddol a defnyddiol iawn oedd ganddynt, Cadwaladr Richards, a chefnder i Cadwaladr Jones, yn digaregu y ffordd o'u blaenau, gan gyfiawnhau penderfyniad y gweinidog ieuangc; a bod y cymmydogion yn gwneyd yr un peth; a bod John a Dorothy Cadwaladr yn ymfoddloni i'r drefn.

PENNOD II.

TREM AR SEFYLLFA CREFYDD YN NGOGLEDD CYMRU AR DDECHREUAD TYMHOR EI WEINIDOGAETH.

Dylanwad yr Eglwys Wladol yn Nghymru—Newyn am Fara y Bywyd— Codiad Methodistiaeth—Howell Harris, a Daniel Rowlands—Enwogion Methodistiaeth yn y gogledd—Hir-lyniad wrth yr Eglwys Wladol—Dechreu urddo yn eu plith yn 1811—Y Bedyddwyr, a'r Wesleyaid—"Dydd y pethau bychain" ar Grefydd—Henafiaeth yr Annibynwyr—Annibynwyr dan enwau eraill er dyddiau y Werinlywodraeth—Llafur Morgan Llwyd, Walter Cradoc, Vavasor Powell, Ambrose Mostyn, Hugh Owen, o Fronyclydwr, Henry Williams, o'r Ysgafell, ac eraill— Codiad amryw o Wyr Enwog yn mhlith yr Annibynwyr yn y gogledd—Lewis Rees, R. Tibbot, G. Lewis, D.D., Jenkyn Lewis, Dr. Williams, o Groesoswallt—Cynydd araf, a'r rheswm am hyny.

PRIN y mae yn angenrheidiol cofnodi mai ychydig iawn of ddaioni a wnaethai yr Eglwys Wladol yn Ngwynedd a Phowys, er y pryd yr adfeddianasai ei hawdurdod ar y wlad, yn nheyrnasiad Charles yr Ail. Gellid darllen llawer o wirionedd yn ei herthyglau athrawiaethol; ond yno y llechai, ac anfynych iawn y gwelid pelydr o hono yn mhregethau ei hoffeiriaid. Moes-wersi oerion, nychlyd, didalent, a meirwon, a draddodid i'r ychydig a gyrchent i'r llanau i'r gwasanaeth. Yr oedd ffurfioldeb, anystyriaeth, a bydolrwydd megys parlys