Tudalen:Cofiant Cadwaladr Jones, Dolgellau.djvu/32

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

dylanwadol yn y deheudir, ac yn Lloegr. Buasai pregethwyr o'r eiddynt yn llafurio yn y parthau hyn yn yr eilfed ganrif ar bymtheg, ac wedi hyny, yn achlysurol, a bu llwyddiant amlwg ar eu hymdrechion; ond yn yr haner olaf o'r ddeunawfed ganrif y daethant i gael eu teimlo, yn mysg yr Enwadau yn ngogledd Cymru. Yr oedd amryw o lafurwyr diwyd a ffyddlon yn eu plith; a chyn diwedd y ganrif hono, cyfododd. dau o brif bregethwyr yr oes o'u plith hwy, i draethu cenadwri yr efengyl i Wyllt Walia; sef, Mr. J. R. Jones, o Ramoth; a Christmas Evans, o Fôn. Yr oedd y golygfeydd o'u blaenau y pryd hwnw yn addawol iawn, dros ychydig amser: ond cyfododd dadleuon yn eu mysg, ar bethau digon dibwys, mewn cymhariaeth, a hyny yn benaf oblegid mympwyon Mr. J. R. Jones, yr hwn a chwenychai ffurfio yr eglwysi Cymreig yn ol cynllun eglwysi y Bedyddwyr yn yr Alban, a dwyn i mewn iddynt syniadau gwahanol i'r rhai a goleddid gan Enwad y Bedyddwyr yn Nghymru, ar ffydd, a rhai pyngciau Duwinyddol eraill. Ymraniad hollol a ganlynodd, yr hwn a fu yn dra niweidiol i lwyddiant achos crefydd, yn mysg y ddwy blaid. Taflodd hyny y Bedyddwyr yn ol, yn y gogledd, am amser maith. Dyna oedd eu sefyllfa, fel Enwad, yma, pan ymsefydlodd Mr. Cadwaladr Jones yn maes ei lafur. Yr oedd y pen Diwygiwr, J. R. Jones, wedi ei fagu yn mhlwyf Llanuwchllyn, ac yn gar agos i wrthddrych y cofiant hwn, ac ar yr Annibynwyr yr arferai wrando, pan yn ieuangc: ond ni fu nemawr o gyfeillach rhyngddo ef a'i gar o Ddolgellau. Yr oedd dyfodiad y Wesleyaid i ogledd Cymru yn ddiweddarach na'r eiddo y Bedyddwyr. Tua dechreuad y ganrif bresennol yr anfonasant hwy genhadon i bregethu yr efengyl ac i ffurfio eglwysi, yn y wlad hon. Cyfododd dadleuon brwd iawn rhyngddynt hwy a'r Enwadau eraill, y rhai a barhausant am lawer o flynyddoedd. Gallai fod y gynneddf ymladdgar yn lled gref yn y cenhadon cyntaf a ddaethant i Wynedd i sefydlu Wesleyaeth: ond cawsant allan yn fuan, fod yn mhlith yr enwadau oeddynt eisoes yn y wlad, wyr mor barod ymladd ag oeddynt hwythau. Bu pob enwad yn euro