PENNOD III.
MAES EI LAFUR, A'I YMRODDIAD I'R WEINIDOGAETH.
Amrywiaethau Golygfeydd—Yr Aran—Cader Idris—Dafydd Ionawr, Barwn Richards, a hynafiaid y Dr. Owen—Nodweddion yr Ardal, a'r bobl—Eangder maes ei lafur—Edward Davies, o'r Allt—Taith trwy Feirion—Angladd yn Beddgelert—Pregethu Saesonaeg yn Nolgellau— Ymweliadau a chleifion, &c.—Neillduolion ei Addysg—Y Gweithiwr ar ei "fwyd ei hun."
Appwyntiwyd Mr. Jones, drwy ddoeth-drefniad Dwyfol Ragluniaeth, i weinidogaethu mewn ardaloedd iachus, dymunol, a phrydferth dros ben. Nid oes odid le yn Nghymru a mwy o brydferthwch, mewn cysylltiad a gwylltedd a mawredd naturiol, wedi cydgyfarfod ynddo, na Dolgellau, a'r cymoedd a gylchynant y lle hwnw. Ceir yno y doldir ffrwythlawn, y palasau heirdd, y llechweddau dymunol, y coedwigoedd. teg ac amryliw, y ffynnonau, y nentydd a'r afonydd gloywon a thrystiog, y llanw yn dyfod i fyny y dyffryn, megys i wahodd yr holl ffrydiau i brysuro tua eu cartref yn y môr heli. Mae awelon bywiol y môr a'r mynydd yn ehedeg drwy yr holl gymmydogaethau hyny. Yr Aran, a Chadair Idris, yn eu holl ysgythredd mawreddog, a gydsafant o'r neilldu, ond gerllaw, fel i gadw chwarae teg i bobpeth llai na hwynt, trwy yr holl fro. Yno y bu yr enwog Dafydd Ionawr yn gwau ei gywyddau meithion undonog, a gorchestol. Yno yr oedd Sir Robert Vaughan, o Nannau, yr hwn a deimlai ac a farnai, mae yn debygol, fod ganddo ef hawl bersonol a theuluaidd i gynnrychioli Meirionydd yn y Senedd, heb ymgynghori nemawr a neb ond âg ef ei hun. Gwladwr da, mewn rhai ystyriaethau, oedd perchenog Nannau: ond seneddwr tra diwerth ydoedd, a dywedyd y lleiaf. Gyda golwg ar grefydd, Eglwyswr tyn a rhagfarnllyd oedd y Marchog, a gwrthwynebwr penderfynol i'r Ymneillduwyr, fel y cafodd Methodistiaid Calfinaidd Llanfachreth, ac enwadau eraill hefyd, ddigon o brawf. Yr oedd ei safle, ei gyfoeth, a'i ddylanwad yn y wlad, yn anfanteisiol i Ymneillduaeth, yn mlynyddoedd cyntaf gweinidogaeth Mr. Jones.