Tudalen:Cofiant Cadwaladr Jones, Dolgellau.djvu/40

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hymddiddanion a'u nodiadau yn niweidiol i amryw. Yr oedd Dr. Priestley yn ŵr mawr iawn yn eu golwg: ond darfu am danynt, fel y derfydd am bob rhyw goeg-dybwyr, o flaen goleuni a nerth efengyl Crist.

Nid rhyw lawer o gyfoeth y byd hwn oedd yn meddiant y bobl y gweinyddai Mr. Jones yn eu plith. Perthyn i'r dosbarth cyffredin yr oeddynt gan mwyaf. Felly, cynnulleidfaoedd bychain o dyddynwyr, gweithwyr, man grefftwyr, a man fasnachwyr, oedd dan ei ofal; ond ymddengys fod llawer o bobl wir grefyddol, goleuedig, a bucheddol yn eu plith. Yr oedd ef, ar ddechreu ei weinidogaeth, oddeutu wyth ar hugain oed, ac yn ŵr ieuangc gwisgi, troediog, a chymhwys i fod yn efengylwr mewn ardaloedd eang a gwasgarog, fel y rhai y llafuriai ynddynt. Yr oedd ei wrandawyr yn cyrhaedd o Ddrwsynant, 8 milldir o Ddolgellau ar y ffordd i'r Bala, hyd yn agos i'r Abermaw, pellder o 18 milldir o hyd, ac of ucheldir y Brithdir i eithaf y Ganllwyd, pellder ddeuddeng milldir o led. Ni allai, wrth gwrs, fyned i bob un o'r chwech lle oedd dan ei ofal, bob Sabboth; ond ymwelai a hwynt bob. un yn ei dro, yn ol cynllun a ffurfiasai i'w ddilyn. Yr oedd. y pellder oedd ganddo ef i'w deithio i'r gwahanol fanau, rhwng myned a dychwelyd, yn 42 o filldiroedd. A phan gofiom ei fod yn arfer myned iddynt yn rheolaidd i bregethu, ac i gadw cyfeillachau crefyddol, rhaid fod gweinidog Dolgellau yn llafurio yn ddiarbed. Ac heblaw myned yn rheolaidd i'r manau hyny, pregethai yn fynych mewn tai annedd, yn y gwahanol ardaloedd, fel y byddai afiechyd, marwolaethau, a bedyddiadau, yn peri i'r bobl alw am ei wasanaeth. Llwyr ymroddodd Mr. Jones i "gyflawni ei weinidogaeth." Nid oedd na gwynt, na gwlaw, na rhew, nac eira a'i rhwystrai i lanw ei gyhoeddiadau, yn ddifwlch. Pwy bynag a esgeulusai ei gydgynnulliad, byddai y pregethwr yn bresennol yn ddios. Yr oedd mor sier o'i nod ag ydyw deddfau anian o gadw eu cylchoedd. Yr oedd anghofio, a methu, allan o'r cwestiwn. Byddai ryw ychydig o funudau yn ddiweddar, yn gyffredin, yn dyfod at ei gyhoeddiadau; ond byddai yn sicr o ddyfod.