Tudalen:Cofiant Cadwaladr Jones, Dolgellau.djvu/43

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

penau, fel ei gyfaill Williams, o'r Wern. Ysgrifenodd lawer o gynlluniau ei bregethau yn Saesonaeg; a bu yn pregethu yn Nolgellau am flynyddoedd yn Saesonaeg, i ychydig o Saeson crefyddol a chwenychent gael clywed yr efengyl yn ei phurdeb a'i symledd. Dieithriaid oeddynt yn ardal Dolgellau; mawrhaent ei weinidogaeth, a chofiodd un o honynt am dano yn haelionus yn ei hewyllys ddiweddaf. Gwelodd Mr. Jones lawer o brofedigaethau ac o helbulon, ond nid oedd dim yn ei wanhau nac yn atal ei ymdrechion yn ngwaith y weinidogaeth. Ai trwy bob peth gan ffyddlawn gyflawni dyledswyddau ei alwedigaeth. Yr oedd ei fywioliaeth yn syml a gwledig; ac yr oedd efe yn hollol rydd oddiwrth gyffroadau meddyliol dieithr a disymwth. Byddai gan hyny, bob amser yn iach, a galluog i gyflawni ei swydd.

Ymweledd a channoedd o dai-galar, a chysurodd dorf of blant gofid-gweddwon ac amddifaid yn ystod tymhor maith ei weinidogaeth. Rhoddes lawer o help i gleifion, wrth ddisgyn ar hyd y grisiau duon tua glan afon angau, a hebryngodd luaws o frodyr a chwiorydd hyd byrth y bedd. Bedyddiodd nifer fawr o blant, a phlant eu plant hyd yr ail a'r drydedd genhedlaeth. Yr oedd efe ar ymweliadau parhaus a chyson, mewn rhyw gwr o faes ei weinidogaeth bron bob dydd. Yr oedd ei hoff "gaseg las" yn adnabod y ffordd, ac amser ei gyhoeddiadau fel wrth reddf. Nid oedd eisiau ond ei chychwyn na wyddai am y ffordd, a'r croes-ffyrdd, a'r tai i orphwys ynddynt; deallai pa le i droi i Rydymain, a'r Brithdir, ac Islaw'rdre, a mannau eraill, fel na buasai eisiau ffrwyn yn ei phen. Adnabyddai pa mor araf yr oedd i fyned, gan y byddai ei marchog yn aml ar dywydd teg, yn darllen y Patriot neu y Dysgedydd, ac os deuai rhywun i'w cyfarfod, gofalai bob amser i sefyll er rhoddi cyfle i'w meistr i ysgwyd llaw, &c. Yr oedd maes ei lafur mor ëang fel yr oedd yn rhaid iddo fod mewn cyfeillachau yn rhyw le neu gilydd braidd bob nos o'r wythnos.

Llafurwr diarbed oedd ein diweddar frawd. Fe deithiodd llawer o weinidogion yr Annibynwyr fwy ar Gymru yn gyffredinol i bregethu yr efengyl na gwrthddrych y cofiant