Tudalen:Cofiant Cadwaladr Jones, Dolgellau.djvu/44

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

hwn; fe ysgrifenodd eraill fwy i'r wasg nag ef; fe ymdrechodd amryw fwy i sefydlu achosion newyddion; fe fu eraill yn fwy cyhoeddus gydag achosion cenedlaethol; ond ni fu yr un gweinidog yn ein mysg yn fwy llafurus ac ymroddgar, yn arfer y talentau a roddes ei Dad nefol iddo, yn ngwaith y weinidogaeth yn ei gartref, na Chadwaladr Jones.

Mae efe hefyd yn engraifft nodedig o weinidog sefydlog llwyddianus; pa un bynag ai yn adeiladu yr eglwys oedd dan ei ofal, trwy eu porthi à gwybodaeth ac à deall; ai eu llywodraethu yn dda ac ysgrythyrol; neu fel offeryn yn llaw yr Ysbryd Glân i ychwanegu eu rhifedi. Cafodd hwy yn fychain, gweiniaid, a diddylanwad; ond gadawodd hwy yn gryfion, yn lluosog, ac yn llwyddianus. Llwyddodd i argraffu ei ddelw fel duwinydd, dyn, a Christion, yn ddwfn ar bobl ei ofal. Ceisiodd eu llesâd yn mhob ystyriaeth, a llwyddodd yn ei amcan. Pleidiodd bob achos da yn eu plith. Achos y Beibl, achos y Genhadaeth, achos Rhyddid Gwladol a Chrefyddol, achos Dirwest, a Llenyddiaeth-pob peth da-a gwnai y cwbl trwy ddylanwad tawel a didwrf, ond cryf ac anorchfygol.

Yn ei holl ymdriniaethau â phethau crefydd yr oedd yn agos at bawb, heb fod yn rhy agos at neb. Yr oedd ei fwynder yn annrhaethol bell oddiwrth weniaith; yr oedd yn gryf heb fod yn arglwyddaidd a rhodresgar. Y gonest, y synwyrol, a'r pur oedd efe. Gwisgodd holl arfogaeth Duw yn nydd y frwydr, a diosgodd yr arfau pan derfynodd yr ymdrech, yn ei bwyll a'i gyflawn anrhydedd, ac yn fwy na choncwerwr.

Perchir ei enw yn Meirionydd tra fo yr olaf o'r rhai a'i hadwaenent ar dir y rhai byw; a bydd ei ragoriaethau lluosog, a'i nodweddiad difwlch yn perarogli yn Nolgellau, yn nyddiau gorwyrion preswylwyr presenol y dref hono, ac yn llawer hwy na hyny.

Trueni na chawsai ei gydnabod am ei lafur caled a hirfaith, yn fwy teilwng gan bobl ei ofal. Dyn yn gweithio yn ddiseibiant ddydd a nos i bobl eraill, "ar ei fwyd ei hun," heb ond ychydig iawn o gydnabyddiaeth oedd efe. Gallai na ddysgodd yntau mo'r wers briodol ar y ddyledswydd o gyfranu,