Tudalen:Cofiant Cadwaladr Jones, Dolgellau.djvu/47

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

mis ar brawf, wedi ei harwyddo dros yr Eglwys, gan Mr. Jones a'r diaconiaid yn y ddau le. Wedi i dymhor y prawf ddyfod i fyny, cefais alwad drachefn i aros ac i weinidogaethu yn eu mysg, wedi ei hysgrifenu ganddo ef, a'i harwyddo gan yr holl aelodau. Yn yr holl bethau hyn, yr oedd yr eglwysi yn gweithredu yn ol ei gyfarwyddiadau ef. Ni wnaent ddim. heb ymgynghori ag ef. Ac ymddengys i mi iddo roddi iddynt gynghorion doeth a phriodol iawn. Byddai yn dda, yn ol fy marn i, pe byddai dynion ieuaingc etto yn y dyddiau hyn, yn derbyn galwadau gan eglwysi ar brawf am ychydig fisoedd, fel y gallent hwy gael prawf o'r eglwysi, a'r eglwysi gael prawf o honynt hwythau, cyn cael eu 'hordeinio.' Rhagflaenai hyny lawer gwaith, lawer o ofid i eglwysi a gweinidogion. Y mae llawer eglwys, a llawer gweinidog, wedi cael achos i edifarhau o herwydd gwneyd gormod o frys i gael cyfarfod 'ordeinio.' Yr oedd eglwysi Rhydymain a'r Brithdir yn parhau i ymgynghori â Mr. Jones ar bob achos o bwys, am yspaid fy arosiad i yn eu plith; ac nid oeddwn mewn un modd yn tramgwyddo wrthynt am hyny, o herwydd gwyddwn nas gallent byth ymgynghori a neb yn meddu cymaint o bwyll, doethineb, a phrofiad. Yr oeddynt yn cael cyfleusderau i hyny yn aml, trwy ei fod ef a minnau yn newid pulpudau a'n gilydd un waith yn y mis, a hyny ar gais y cyfeillion yn Nolgellau yn gystal a Rhydymain a'r Brithdir. Cefais fy hunan lawer o gynghorion gwerthfawr gan Mr. Jones, y rhai a wnaethant i mi les mawr. Yr oedd ol ei bregethau i'w gweled yn amlwg ar y cynnulleidfaoedd a arferent wrando arno yn Rhydymain a'r Brithdir. Yr oeddynt hwy yn debyg iawn iddo yntau. Yr oedd wedi argraffu ei ddelw ei hunan a delw ei bregethau arnynt yn amlwg iawn. Prif hynodrwydd ei wrandawyr a phobl ei ofal ydoedd, hoffder o bregethau ar byngciau athrawiaethol Cristionogaeth. Ni wnaent fawr o sylw o bregethau bychain ar ddyledswyddau ymarferol crefydd. Yr oeddynt yn awyddus iawn i 'fwyd cryf;' ac yr oedd amryw of honynt yn dduwinyddion cryfion a dwfn, yn hoff iawn o ymresymu ar byngciau; gofyn barn y gweinidog yn nghylch