Tudalen:Cofiant Cadwaladr Jones, Dolgellau.djvu/49

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

fy annghofio i y tro hwn. Ai hyn sydd genyt ti yn y diwedd? rhyfedd mor orchestol y daethost! Wel hi ddaw yn well tybed y tro nesaf, oni ddaw hi?' eb efe, a gwên ar ei enau. 'Gobeithio y daw hi,' ebe'r hen ddiacon, dan chwerthin. Ac ymadawodd y ddau dan wasgu ac ysgwyd dwylaw mor serchog a phe buasai newydd dderbyn papyr pum' punt ganddo.

"Hynaws, tyner, a phwyllus iawn y byddai efe yn arfer bod 'braidd' bob amser, mewn cyfeillachau crefyddol, a chyfarfodydd eraill. Ond medrai fod yn llym iawn weithiau, os byddai achos. Clywais y cyfeillion yn adrodd, ei fod gyda hwy yn Rhydymain un tro, mewn pwyllgor, pan yn rhoddi ei weinidogaeth i fyny yn eu plith, yn ymgynghori yn nghylch cael olynydd iddo. Yr oedd yno amryw ddynion ieuaingc yn y cyfarfod hwnw gyda'r hen frodyr. Ond yr oedd yr ieuengctyd oll yn bur ddistaw, ac yn gadael y siarad i'r hen gyfeillion a Mr. Jones, oddieithr un dyn ieuangc; yr oedd y cyfaill hwnw yn siarad cryn lawer, ie, 'braidd' fwy na'i ran. "Taw di machgen i,' ebe Mr. Jones, 'gad i'r hen bobl ddyweyd eu meddwl.' Tawodd y dyn ieuangc dros ychydig amser, ond dechreuodd siarad drachefn cyn hir. Taw R-b-n, bydd ddistaw,' ebe yr hen weinidog. Pan oedd y cyfeillion wedi twymno wrth ymddiddan, yr oedd yr ysbryd yn cynhyrfu y gwr ieuangc drachefn i siarad, 'Os na fedri di fod yn ddistaw R-b-n, rhaid i ti ymadael a myned allan,' ebe Mr. Jones. Bu y ddysgyblaeth lem hon yn effeithiol i roddi taw arno am y noson hono. Bu y ddau er hyny, yn gyfeillion mawr tra bu Mr. Jones byw, o leiaf, yr oeddynt felly tra y bum i yn yr ardal. Yr oedd Mr. Jones yn hynod o fedrus i ddarostwng ambell ddyn ieuangc balch a hunanol. Cof genyf fod unwaith gydag ef yn y gyfeillach grefyddol yn Nolgellau. Yr oedd yno ddyn ieuangc lled hunanol yn eistedd yn agos i'r bwrdd. Gofynodd Mr. Jones iddo, 'A oes dim ar dy feddwl di E-n a chwenychet ei ddywedyd?" Cododd y gwr ieuangc ar ei draed, a dechreuodd siarad yn ddoctoraidd iawn ar ryw bwngc o athrawiaeth, ond dim yn nghylch ei gyflwr fel pechadur. Ar ol iddo siarad yn faith