Tudalen:Cofiant Cadwaladr Jones, Dolgellau.djvu/51

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Marw a wnelwyf o farwolaeth yr uniawn, a bydded fy niwedd i fel yr eiddo yntau.'"

PENNOD V.

YN YMDDIOSG O'I OFALON GWEINIDOGAETHOL YN NOLGELLAU AC ISLAW'RDREF.

Ei arferiad o newid Sabboth bob mis â'i olynwyr yn Rhydymain a'r Brithdir—Henaint a'i gymdeithion—Galwad Mr. T. Davies, o Goleg Aberhonddu—Y cyfarfod urddo—Dechreuad cyfnod newydd yn Nolgellau—Llythyr yr hen weinidog at yr eglwysi, a'i ddarlleniad ganddo—Y teimladau ar y pryd—A'r rhagolygon dyfodol.

Wedi sefydliad gweinidog yn Rhydymain a'r Brithdir, yr oedd maes llafur Mr. Jones yn llawer cyfyngach nag y buasai erioed o'r blaen. Nid oedd ganddo o hyny allan ond Dolgellau, Islaw'rdref, a Llanelltyd i ofalu drostynt; ond arferai newid Sabboth yn fisol gyda Mr. James, ac a'i olynydd, Mr. Ellis; ac felly yr oedd yn cael cyfleusderau yn fynych i droi yn mysg ei hen ddysgyblion yn y manau a fuasent dan ei arolygiaeth. am wyth ar hugain o flynyddau. Yr oedd hyny yn hyfrydwch mawr iddo, ac yn ychydig o ysgafnhad ar ei lafur gweinidogaethol.

Bu yn ymroddgar a diwyd iawn yn y weinidogaeth yn Nolgellau a'r lleoedd eraill oeddynt dan ei ofal, am bedair ar bymtheg o flynyddoedd wedi iddo roddi gofal Rhydymain a'r Brithdir i fyny. Byddai yn bresenol yn mhob cyfarfod y gallai ei gyrhaeddyd, ac yr oedd ei wybodaeth, ei bwyll, a'i ddoethineb, "yn sefyll gydag ef" bob amser. Bu yn "was da a ffyddlon" i'w Arglwydd ac i'w bobl, a llanwodd ei gylch yn anrhydeddus, ac er boddlonrwydd mawr i'r cynnulleidfaoedd yn gyffredinol. Er hyn oll, yr oedd bellach yn tynu i gryn oedran, ac ni ddaw henaint heb ei gymdeithion gwywedig gydag ef; a dechreuodd ef ac eraill farnu, fod eisieu gweinidog ieuengach nag ef yn Nolgellau, a bod yr adeg gerllaw, pryd y byddai yn ddoeth iddo gilio o'r neilldu, i roddi lle i rywun a fernid yn gymwys i fod yn olynydd iddo.