Tudalen:Cofiant Cadwaladr Jones, Dolgellau.djvu/52

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

Ymdrechwyd cael gan un o'r dynion mwyaf galluog a berthyn i'n cenedl symud i Ddolgellau i weinidogaethu; ond dyrysodd yr amcan hwnw. Yn nechreu y flwyddyn 1858, ymwelodd Mr. Thomas Davies, o Goleg Aberhonddu, â'r gynnulleidfa yno, a chafodd alwad unfrydol i ddyfod i weinidogaethu yn eu plith. Arwyddwyd yr alwad hono gan Mr. Jones yn gyntaf oll; a phan ddaeth adeg urddiad y gweinidog newydd, sef Gorphenaf 20, 21, 22, yn y flwyddyn a nodir uchod, ymddiosgodd yr hen weinidog yn gyhoeddus, o'i ofalon gweinidogaethol yn Nolgellau ac Islaw'rdref. Ysgrifenwyd hanes yr amgylchiad tarawiadol hwnw gan un oedd yn bresennol yn y cyfarfod, ac ni allwn wneuthur yn well na rhoddi y sylwadau hyny ger bron y darllenwyr, er eu bod yn cyfeirio at amryw o bethau sydd wedi eu crybwyll eisoes. Wele hwynt:—

"Gan nad beth a feddylir am natur ac amcan y seremoni o urddo, y cyhoeddusrwydd a weddai i'r amgylchiad, a'r personau yn briodol a weinyddant ar y fath achlysuron, y mae yr amgylchiad hwn yn eglwys Annibynol Dolgellau, yn gwisgo nodwedd arbenigol, ddyddorol, ac effeithiol. Yr oedd yr olygfa darawiadol ar adeg bwysig gwasanaeth yr urddiad, yn un a hir gofir! Yr oedd cyfarfod urddo yn Nolgellau yn beth hynod a dieithr; ac yr oedd yr amgylchiadau yn gyfryw na bu eu bath yn aml yn Nghymru, a lled debyg hefyd, na bydd eilwaith ar eu hol gydgyfarfyddiad tebyg ar fyrder. Yr oedd yr hen weinidog a weinyddasai ordinhadau santaidd y cysegr yn y lle am saith a deugain o flynyddoedd, yn diosg oddi am dano ei wisgoedd offeiriadol, gan eu harwisgo am ei olynydd, yn gosod dyddordeb ar y cyfarfod hwn. Bu llawer o son am y cyfarfod urddo, ac o ddarparu ar ei gyfer cyn iddo ddyfod. "Yr oedd argraff-wasg Brynhyfryd wedi bod yn parod. ddarpar argraff-nodau mewn cysylltiad â'r alwad, cynhaliaeth y gweinidog newydd, a chyhoeddiad dydd mawr yr urddiad. Gwasgarwyd lleni mawrion argraffedig yn bell ac yn agos, yn cynnwys programme o drefn y cyfarfod, gydag enwau y gweinidogion a weinyddent am wythnos gyfan.