Tudalen:Cofiant Cadwaladr Jones, Dolgellau.djvu/58

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

iaeth, a'u hadeiladu mewn pethau ysbrydol. Y mae yr anghysonderau erchryslonaf i'w canfod yn nglyn a'r peth hwn; yn ddiau dylid gweithredu ar ryw reol fwy sefydlog, a chyson, na mympwyon dynionach anniolchgar, hunangar, a digrefydd.

"Gwir, i lawer un gael anghyfiawnder ar law eu meistriaid tir, nes eu llethu i iselder ysbryd ac amgylchiadau. Llafuriasant yn ddiflino dros adeg gweithio, i unioni yr hen wrychoedd ceimion, i arloesi a digaregu y gelltydd, i draenio yr hen swamps, ac i wrteithio y tir; adeiladasant ysguboriau newyddion, a phlanasant winllanoedd, ond gyda eu bod ar ben a'u cynlluniau, ac i'r tir ddyfod i sefyllfa i dalu: dyma notice to quit, oddiwrth y steward. Yr oedd y tenant erbyn hyn yn hen wr, a'i wallt yn wyn, ac yn analluog i weithio fel cynt, ond, yr oedd yn rhaid iddo fyned dros y drws i wneyd lle i gyfaill i'r goruchwyliwr annghyfiawn. Dyna dro melldigedig meddai pawb, ie, meddwn ninnau. Ond y mae yr un engreifftiau yn aml i'w cael ar feusydd mwy cysegredig na'r un yna; ceir hwynt o fewn cylch eglwysi yr Hwn ni wnaeth gam ac ni chaed twyll yn ei enau. Fe gyfodir cofadeiladau, o gydnabyddiaeth anrhydeddus i lafur hen arwyr rhyfel, ond gadewir hen arwyr ffyddlonaf Seion, cenhadon y groes, pregethwyr tangnefedd, i ymdaro ag ystormydd amgylchiadau yn eu nerth eu hunain, a chleddir eu henwau yn llaid hunanolrwydd. Ein dymuniadau goreu ar ran hen weinidog Dolgellau ydynt, 'ar i weddill ei ddyddiau fod yn llawer, a diddanus, a chaffed ddisgyn mewn tangnefedd i'w fedd, a'i gasglu at ei frodyr, a chydlafurwyr boreu a chanol-dydd ei fywyd, yn gyflawn o ddyddiau, parch, ac anrhydedd.' Ac i'r gweinidog newydd y dymunem hir oes, cysur, a llwyddiant mawr. Caffed ffafr gyda Duw a dynion.