Tudalen:Cofiant Cadwaladr Jones, Dolgellau.djvu/59

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

PENNOD VI.

GWEDDILL EI WEINIDOGAETH YN LLANELLTYD A THABOR.

Lleihau ei ofalon fel y cynyddai ei oedran—Yn cydweinidogaethu a Mri. Davies, Trawsfynydd, ac Ellis, Brithdir Ymadawiad y Parch. T. Davies â Dolgellau—Ei gynorthwy yn absenoldeb gweinidog yn y lle—Llythyr oddiwrth Mr. Rowland Hughes.

Yr oedd Mr. Jones ychydig dros bymtheg a thriugain oed pan ymddiosgodd o'i ofalon gweinidogaethol yn Nolgellau ac Islaw'rdref. Gwelwn fod y Brenin Mawr yn dirion iawn o'i was, yn cyfyngu ei gylch yn raddol fel yr oedd ei oedran yn cynnyddu, ac yn ysgafnhau ei faich o bryd i bryd fel yr oedd gwendidau hen ddyddiau yn pwyso arno. Ni fwriodd ef ymaith "fel llestr heb hoffder ynddo," ond lleihaodd ei ofalon, a hyny yn y modd tyneraf, ac yn raddol iawn; a rhoddodd iddo amser i gael ei "anadl ato" yn niwedd ei oes. Meistr anrhydeddus yn ei ymddygiadau at ei hen weision yw yr Arglwydd. Ni ddisgwylia Efe i'w hen weision weithio a llafurio llawer wedi i'w nherth wanhau; ond disgwylia iddynt fod yn "dirfion ac iraidd yn eu henaint, i fynegu mai uniawn yw'r Arglwydd eu craig, ae nad oes anwiredd ynddo." Disgwylia i'r ieuangc, yr iach, a'r cryf wynebu pwys y dydd a'r gwres, a llafurio yn ddiarbed; ond y mae Efe yn cydymdeimlo a'i weision ffyddlon mewn henaint, ac yn darparu ar eu cyfer yn ol eu hamgylchiadau. Felly y gwnaeth Efe yn dirion gyda golwg ar y gwas ffyddlon hwn o'i eiddo.

Parhaodd Mr. Jones i lafurio yn Llanelltyd, fel cydweinidog â Mr. Davies, o Drawsfynydd, ac yn Tabor, fel cydweinidog a Mr. Ellis, o'r Brithdir, am naw mlynedd wedi sefydliad gweinidog yn ei le yn Nolgellau ac Islaw'rdref. Beth bynag a ellir ddywedyd yn erbyn cydweinidogaeth, y mae yn ffaith fod yr hybarch Cadwaladr Jones wedi bod yn gydweinidog a Mr. Davies dros ddeugain mlynedd, a thros lawer o flynyddoedd gyda Mr. Ellis, a hyny yr un pryd gyda y ddau. Ni chlywyd mo hono ef un amser yn cwyno rhagddynt hwy, na hwythau rhagddo yntau. Buont yn hollol heddychol a dedwydd gyda eu gilydd. Mae y ffaith hon yn werth ei chofnodi