Tudalen:Cofiant Cadwaladr Jones, Dolgellau.djvu/61

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

nid ydwyf yn gwybod i mi erioed ei glywed yn amcanu at absenu undyn. * * * Un o'i hynodion, fel dyn cyhoeddus, oedd ei barodrwydd i ddyfod allan i bleidio pob achos a farnai ef yn achos teilwng a da. Er fe allai y byddai yn lled bwyllog gyda hyn, fel gyda phob peth arall. Cymerai ddigon o amser i ystyried pob symudiad newydd, yn ei holl gysylltiadau, cyn rhoddi ei gefnogaeth a'i ddylanwad o'i blaid. Ond ar ol iddo gael ei argyhoeddi fod y symudiad yn un da, teilwng, ac anrhydeddus, deuai allan o'i blaid yn ddiofn, a rhoddai ei holl ddylanwad a'i gefnogaeth er ei hyrwyddo yn mlaen yn fwy llwyddianus. Er engraifft-Daeth allan yn mhlith y rhai cyntaf fel pleidiwr a chynnorthwywr i Gymdeithas y Beiblau, a pharhaodd yn ffyddlon, fel y cyfryw, hyd ei ddyddiau diweddaf, am yr yspaid maith o 50ain mlynedd, o leiaf; a chan belled ag yr wyf fi yn gwybod, ni fu yn absenol o'r un o gyfarfodydd y Gymdeithas, yn y dref hon, yn ystod yr holl flynyddoedd a nodwyd. Byddai efe yn ei le bob amser, fel y teimlid chwithdod mawr yn y cyfarfod a gynhaliwyd ddiweddaf tra y bu efe byw, i weled ei le ef yn wag. Ond yr oedd efe y pryd hwnw ar ei glaf wely, a bu farw yn mhen ychydig wythnosau wed'yn. Hefyd, pan y cytunwyd gan yr enwadau Ymneillduol i gael Ysgol Frytanaidd i'r dref, daeth yr Hen Weinidog" allan, a rhoddodd ei holl ddylanwad gyda'r symudiad, a pharhaodd yn gyfaill a chefnogwr i'r achos hwn hyd ddiwedd ei oes.

Yr oedd yn bleidiwr selog i'r achos dirwestol. Bu ef, a'r diweddar Robert Griffith, o'r dref hon, am yspaid maith yn pregethu ar yr achos dirwestol, yn ngwahanol gapelydd y dref. Yr wyf yn ei gofio yn dda un tro yn traddodi pregeth ar y mater hwn, oddi wrth y geiriau "Melldithiwch Meros;" a gwnaeth un sylw a gafodd effaith neillduol arnaf fi, sef, "fod arno ef ofn sefyll draw oddi wrth yr achos dirwestol, rhag ofn i felldith Duw syrthio arno ef, neu ar ei deulu." Dywedai fod gan Dduw filoedd o ffyrdd i lwyddo, neu i aflwyddo dynion. Nid oedd yn rhyw hoff iawn o'r "Cyfarfodydd Llenyddol," er y byddai yn aml yn rhoddi ei bresenoldeb yn y rhai hyn. Ond credwyf y byddent, yn y cyffredin, yn cael eu dwyn yn mlaen mewn dull rhy ysgafn a gwageddus ganddo ef; o'r hyn lleiaf, cefais le i gasglu hyny oddi wrth ei agwedd yn un o'r cyrddau hyny. Yr oedd y steam wedi ei godi i'r eithafoedd pawb mewn hwyl, ac yn barod i chwerthin, a bod yn llawen; ond eisteddai yr hen wr yn eu canol, a'i wynebpryd fel gwynebpryd angel, yn sobr a difrifol, a danghosai ei holl agweddiad yr annghymeradwyaeth llwyraf o'r dull ysgafn a gwageddus y cerid y cyfarfod yn mlaen. Gallaf dystiolaethu, hefyd, ei fod yn neillduol o barchus o bregethwyr cynnorthwyol ei gylch gweinidogaethol. Yr wyf yn credu na chlywyd ef erioed yn taflu un math o ddiystyrwch nac anfri ar y rhai hyny; ond rhoddai bob cefnogaeth iddynt, drwy eu galw i ddechreu yr oedfa o'i flaen ef, neu i ddywedyd gair yn y gyfeillach, ar ol yr oedfa; ac yn mhob man arall lle byddai yn gyfleus iddynt wneyd. Ystyriai efe hwynt yn frodyr, a chynnorthwywyr, a pharchai hwynt fel y cyfryw.

Yr un fath oedd ei ymddygiad tuag at y "Myfyrwyr" hefyd. Byddai yn siriol a charedig wrth y rhai hyny. Pan ddeuent heibio ar eu taith, elai efe gyda hwynt i'r manau lle y llettyent, ac ymddyddanai, yn rhydd a chyfeillgar a hwynt am hir amser. Byddai