yn hoffi eu cyfeillach, yn dirion o honynt, ac yn barod i roddi pob cynghor daionus iddynt; a'u tystiolaeth hwythau, ar ol iddo fyned ymaith, fyddai bob amser, "Y mae Mr. Jones yn hen wr tirion a chyfeillgar iawn." Clywais y geiriau yna gan luaws o Fyfyrwyr ar ol iddynt fod gydag of am hir amser yn fy nhŷ, gan mai gyda myfi, yn y cyffredin, y byddai y Myfyrwyr yn llettya. Gallaf ddwyn tystiolaeth i'w barodrwydd bob amser i gynnorthwyo hefyd, gan nad pa un ai pethau tymhorol ai pethau ysbrydol fyddai eisiau. Os cynghor fyddai eisiau, yr oedd bob amser yn barod i'w roddi, ac yn sicr o roddi y cynghor gorou, yn ol ei feddwl ef; neu os gwelai dylawd mewn eisiau, ni fedrai droi ei gefn arno heb ei gynnorthwyo. Ni wnai efe un gwahaniaeth i'r rhai hyny oedd heb fod yn perthyn i'r un blaid grefyddol ag ef. A thrwy ei ymddygiad tirion fel hyn, yr oedd wedi ennill serch pawb—Eglwyswyr, yn gystal ag Ymneillduwyr—plant, yn gystal a rhai mewn oed. Byddai hyd yn oed meddwon cyhoeddus y dref, a'r dyhirod penaf yn yr ardal, yn talu parch iddo pan gyfarfyddent ag ef.
Yn mlynyddoedd diweddaf ei oes, cyfyngodd ei ofal gweinidogaethol i Llanelltyd a Thabor, ond arferai fyned yn fisol i'r Cutiau, Rhydymain, a'r Brithdir. Parhaodd yn ffyddlon yn y cylch hwn hyd o fewn ychydig wythnosau i'w farwolaeth. Yr oedd ei bryder yn fawr, a'i ofal yn fawr iawn dros lwyddiant yr achos, yn enwedig yn Llanelltyd a Thabor. Ai atynt yn ol ei "gyhoeddiad" trwy bob tywydd, i'r gyfeillach wythnosol yn gystal a'r Sabbothau. Anaml iawn y cymerai ef ei attal gan wlaw, nac eira, tywyllwch y nos, nac ystormydd geirwon y gauaf; ond gellid bob amser ymddibynu arno, os byddai wedi ei gyhoeddi i fod yn bresenol. Deuai yno bob amser, a hyny weithiau yn wyneb llawer o afiechyd a llesgedd.
Yr wyf yn cofio un Sabboth yn neillduol, pan oeddwn yn dyfod o'r Ganllwyd, digwyddais droi i Lanelltyd. Gwyddwn ei fod ef i fod yn pregethu yno y nos Sabboth hwnw, ac yr oedd wedi bod yn y Cutiau am "ddau." Cwynai nad oedd yn teimlo yn dda, ac erfyniodd arnaf bregethu yn ei le, a gwnaethum hyny. Ond yr wyf yn meddwl na phregethodd efe byth mwy yno. Hwn oedd y tro diweddaf y bu yno, ac yr oedd ychydig wythnosau cyn iddo fyned oddi wrth ei waith i dderbyn ei wobr.
Bu o wasanaeth mawr iawn i'w hen eglwys, yn Nolgellau, yn ei flynyddoedd diweddaf, drwy fod yn barod ar bob adeg y gelwid arno —i fedyddio, neu gladdu, neu briodi, neu unrhyw orchwyl arall a allai efe wneyd, yr oedd yn ewyllysgar i'w gyflawni; a byddai yn hoff iawn genym ei weled yn y gadair tu ol i'r bwrdd yn y cyrddau eglwysig. Byddai hyd yn nod ei bresenoldeb, pe dim ond hyny, yn gyfnerthiad mawr i ni fyned yn mlaen. Gwnai ei holl waith yn ei gysylltiad a'r eglwys hon, yn y blynyddoedd diweddaf, heb un olwg am elw bydol; ond ni chlywyd ef yn cwyno un amser am hyny. Ni roddai i fyny i weithio tra gallodd gael nerth i ddyfod allan; ac er ei fod wedi ei gaethiwo, am rai wythnosau, i'w wely, yr oedd ei feddwl o hyd yn parhau yn fywiog a gweithgar. Y tro diweddaf y cefais gyfleustra i ymddiddan ag ef, wrth erchwyn ei wely, yr oedd golwg siriol a hawddgar arno. Dywedai ei fod yn parotoi pregeth, gan obeithio y cai eto fyw i bregethu tipyn yn Llanelltyd a Thabor.