Tudalen:Cofiant Cadwaladr Jones, Dolgellau.djvu/72

Oddi ar Wicidestun
Prawfddarllenwyd y dudalen hon

brofi catholigrwydd yspryd, a chymmeriad yr hen weinidog Annibynol oedd fod ei gymmydog offeiriadol, y diweddar Archddiacon White ac yntau yn byw ar y telerau mwyaf cyfeillgar a'u gilydd, a llawer gweithred ryddfrydig a gyflawnodd yr Archddiacon o barch i gymmeriad uchel ei hen gymmydog parchedig o Gefnymaelan. Teimlai pawb fod colli y fath gymmeriad parchus a chatholicaidd yn golled fawr i'r Ymneillduwyr oll yn yr ardaloedd hyn.

"3. Parchusrwydd a Chariadusrwydd ei Gymmeriad.—Y mae llawer dyn da a gweinidog ffyddlon y mae ein deall a'n cydwybod yn gorfod ei barchu, ac etto ein serch yn analluog i'w garu. Y mae eraill y mae ein serch yn gallu eu caru, nad yw ein deall a'n cydwybod yn gallu edrych i fyny at eu holl gymmeriad gyda pharch. Yr oedd elfenau yn nghymmeriad ein hen batriarch o Gefnymaelan a'i cadwodd trwy holl helyntion ei yrfa faith rhag syrthio unwaith erioed i fod yn wrthddrych diystyrwch neb. Yr oedd y parchusrwydd cyffredinol hwn i'w ganfod yn eglur ar ddydd ei gladdedigaeth. Yr oedd yr olygfa ar 'stryd fawr' Dolgellau, pan oedd yr orymdaith alarus yn cerdded trwodd, ac yn mynwent y Brithdir wrth ei gladdfa, yn olygfeydd o barchedigaeth calonau diragrith y gallasai mawrion y byd yn hawdd genfigenu wrth y gŵr anymhongar oedd yn wrthddrych iddynt. Yr oedd pawb yno yn gallu ymuno i barchu y dyn, y cyfaill, a'r gwladwr; ond hefyd yr oedd yno luaws a digon o'r 'dyn ysbrydol ' ynddynt i allu caru y 'gŵr Duw' a'r Gweinidog i Grist.' Gwelsom Mr. Jones cyn y diwrnod hwnw o bob math o safleoedd a chyfeiriadau; ond nis gwelsom ef erioed o'r blaen o lan ei fedd. Hanerog ac anmherffaith ydyw yr olwg ar ddyn o bob safle arall. I gael golwg gyflawn, deg, a chlir ar ddyn, rhaid ei weled oddiar lan ei fedd. Y mae glan y bedd fel "bryniau Caersalem," "ceir gweled holl daith yr anialwch i gyd," oddiyno ar un olwg. Yr oedd Mr. Jones yn hawdd ei barchu a'i garu o bob safle yr edrychasom arno erioed; ond ni welsom ef erioed mor hawdd ei barchu a'i garu ag y gwelem ef y diwrnod hwnw oddiar fryn glan ei fedd, pan y gallem edrych yn